Dyfodol

Chi ydy dyfodol ein cymunedau a'n gwlad, ac mae'n bwysig fod gwleidyddion yn gwrando ar eich barn chi.

Beth ydych dyheadau chi? Beth sydd yn eich poeni chi? Beth sydd angen ei newid?

Iechyd meddwl, annibyniaeth, yr amgylchedd, tai, Brexit, addysg, trafnidiaeth, gwasanaeth iechyd, gwefannau cymdeithasol - beth ydy'ch profiadau chi? Eich barn chi? Eich syniadau chi?

Oes oes gennych chi syniad neu farn yna rhannwch o efo ni yma. Os oes yna lun sy'n cyfleu eich syniad yn well, yn gallwch ei rannu yma hefyd.

Rhannwch eich syniadau efo ni fan hyn:


Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Pam nad yw Cymru yn cynnig yr un grantiau a’r gwledydd eraill y DU?

Ymateb swyddogol gan submitted

Cwestiwn da!

Yn elfennol, mae'n berwi i lawr i allu y llywodraethau i fenthyg a rhannu pres.

Mae Cymru yn llwyr ddibynnol ar San Steffan am eu phres. Daw'r pres yn sgil gwariant a wneir ar adrannau yn Lloegr - felly os ydy Iechyd yn Lloegr yn derbyn swm o bres, yna mae iechyd yng Nghymru yn derbyn canrhan o'r swm hwnnw (tua 5.1%). Ond os ydy llywodraeth San Steffan yn penderfynnu fod y gwariant yn llesol ar gyfer y Deyrnas Gyfunol gyfan (e.e. rhelffordd HS2) yna ni fydd Cymru yn cael dim dimau yn ychwanegol.

Oherwydd anallu Cymru felly mae'r pres yn llwyr ddibynnol ar San Steffan, ac yna mae dyraniad y pres hwnnw yn ddibynnol ar flaenoriaethau y blaid sydd mewn llywodraeth yng Nghaerdydd - yn yr achos yma Llafur.

Mae sawl sector wedi methu allan ar bres - ystyria y sector bysgota sydd wedi derbyn nemor ddim cefnogaeth. Mae hyn am nad ydynt yn uchel ym mlaenoriaethau Llafur, ond i ni yma mae nhw'n andros o bwysig - yn cynnal diwydiant, teuluoedd a chymunedau.

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae angen ail-strwythuro’r system addysg!

Ymateb swyddogol gan submitted

Oes, yn sicr dydio ddim yn gweithio o blaid pawb, ac mae nifer sydd o gefndir mwy breintiedig yn llwyddo oherwydd gallu y rhieni i dalu am wersi ychwanegol.
Mae anegn i ni beidio ag ofn edrych i'r Ffindir, De Korea a gwledydd eraill am engrheifftiau da a mabwysiadu rhai arferion o wledydd eraill.

Beth ydy'r heriau penodol wyt ti'n eu gweld?

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Tai fforddiadwy

Mae angen pwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i wneud tai yn fwy fforddiadwy i bobol ifanc a phobol leol yn gyffredinol. Oherwydd y cynnydd mewn tai gwyliau mae’r farchnad dai allan o reolaeth.

Ymateb swyddogol gan submitted

Cytuno yn llwyr.

Dyma ydy un o'n blaenoriaethau ni yma. Rwyf innau (Mabon) wedi cyflwyno amryw o syniadau ar su fedrith y llywodraeth fynd i'r afael ar hyn, ac rwy'n falch fod Cyngor Gwynedd, o dan reolaeth y Blaid, wedi llunio cynllun i wneud be fedran nhw o fewn y grymoedd cyfyngedig sydd ganddynt.

Os na welwn ni ddatrysiad i hyn, yna fydd rhannau helaeth o Wynedd yn ddim ond maes chwarae i'r cyfoethog am ychydig wythnosau o'r flwyddyn.

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Does dim tai fforddiadwy yma i ni.

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Angen mwy o barciau sglefrfyrddio

Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.