Ymgyrchoedd

loading
  • LIZ YN CEFNOGI MEDDYGON AR STREIC

  • LIZ YN GALW AM GEFNOGAETH I OFALWYR

  • MABON AP LIZ GYDA SEFYDLIAD DPJ

  • MABON A LIZ YN CEFNOGI FFERMWYR LLEOL (MART BRYNCIR)

AMBIWLANS AWYR

Mae’r penderfyniad i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a’r Trallwng a chanoli’r gwasanaeth yng ngogledd ddwyrain Cymru yn mynd yn groes i fuddiannau cymunedau ar draws gogledd orllewin a chanolbarth Cymru.

Rydym ymhell o fod yn sicr na fydd yr ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl o’r cynlluniau hyn fel Pen Llŷn a de Meirionnydd yn cael eu gadael gyda gwasanaeth is-safonol. Rydym yn gweithio gydag ymgyrchwyr i herio'r penderfyniad.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

WASPI

Mae Plaid Cymru wedi blaenoriaethu sicrhau iawndal i ferched sy’n cael eu taro gan newidiadau yn oedran pensiwn y wladwriaeth, ar ôl i Lafur a’r Ceidwadwyr ill dau gael eu cyhuddo o gefnu arnynt. Mae Liz wedi bod yn gefnogwr brwd o’r ymgyrch dros gyfiawnder.

Mae’r grŵp ymgyrchu Women Against State Pension Injustice (WASPI) wedi bod yn pwyso am iawndal i ferched, a aned yn y 1950au, sydd wedi cael eu digolledu o filoedd o bunnoedd gan newidiadau i’w hawliau pensiwn.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

CYSYLLTEDD

Mae band eang yn un o hanfodion bywyd modern - ar gyfer gwaith, astudio, gwasanaethau ar-lein a hamdden. Yn anffodus mae Dwyfor Meirionnydd ymhlith yr ardaloedd sy’n cael eu gwasanaethu waethaf gan ddarpariaeth band eang yn y DU.

Mae cael signal ffôn symudol dibynadwy wedi bod yn her i lawer o gymunedau yn Nwyfor Meirionnydd. Mae Liz Saville Roberts AS wedi ei gwneud yn flaenoriaeth i lobïo darparwyr rhwydwaith i wella cysylltedd symudol ar draws Dwyfor Meirionnydd.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.