Croeso i dudalen Plaid Cymru yn Nwyfor-Meirionnydd.
Yma cewch wybodaeth am weithgareddau diweddaraf cynrychiolwyr y Blaid yma, sy'n ymladd drosoch chi, pobl Dwyfor-Meirionnydd.
Newyddion diweddaraf

Y Llywodraeth yn methu a chefnogi gwelyau nyrsio cymunedol
Mae arweinwyr cymunedol wedi mynedgu eu siom y bydd gwelyau nyrsio yn y Pentref Pwylaidd, Penrhos, ger Llanbedrog yn cau yn gynt na'r disgwyl, gan gyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o fethu a rhoi'r gyllideb angenrheidiol i'w chynnal am gyfnod byr.
Darllenwch fwy

Y Llywodraeth Doriaidd yn barod i aberthu ffermwyr defaid ar allor Brexit heb gytundeb
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r Llywodraeth Brydeinig yn hallt am gyfaddef fod y sector ffermio ddefaid am gael ei chwalu os na fydd yna gytundeb efo’r Undeb Ewropeaidd, ac hefyd yn disgwyl i ffermwyr defaid arall gyfeirio yn ddiffwdan i ffermio eidion.
Darllenwch fwy

CEFNOGAETH TRAWSBLEIDIOL I ALWAD PLAID CYMRU AM GEFNOGAETH I HOSTELI
Mae Cynnig gan Blaid Cymru yn San Steffan sy’n galw ar Drysorlys y DU i ddarparu cefnogaeth wedi'i thargedu ar gyfer hosteli sydd wedi dioddef oherwydd Covid-19, wedi sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol eang.
Mae'r Cynnig a gyflwynwyd gan Liz Saville Roberts AS ac a noddir gan Hywel Williams AS yn galw ar y Trysorlys i roi pecynnau cymorth brys ar waith ar gyfer y sector hosteli, wrth i ffigurau gan y Gymdeithas Hosteli Ieuenctid (YHA) ddangos cwymp o £30m mewn incwm ers mis Mawrth.
Darllenwch fwy