Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts wedi cyhuddo Canghellor y DU o ddiystyru bragdai bach annibynnol yng Nghymru, wrth i lywodraeth San Steffan newid y ffordd y mae bragdai yn cael eu trethu.
O dan y cynlluniau dadleuol, mae dwsinau o fragdai bach ledled Cymru yn wynebu’r baich o dalu mwy o dreth oherwydd penderfyniad y Trysorlys i dorri Rhyddhad Trethi Bragdai Bach (Small Breweries Relief). Gallai'r newidiadau effeithio'n andwyol ar oddeutu 90 o fragdai bach yng Nghymru.
Bydd Mrs Saville Roberts yn arwain dadl ar mater yn San Steffan heddiw. Dywedodd ei bod wedi siarad â sawl bragdy bach yn ei hetholaeth a oedd yn poeni sut y byddai eu busnesau yn ymdopi â’r penderfyniad i dorri SBR o 5,000hl i 2,100hl.
Cyflwynwyd Rhyddhad Trethi Bragdai Bach yn 2002 i helpu bragdai newydd ddod yn broffidiol a chystadlu â bragdai mawr yn y farchnad. Ar hyn o bryd mae'r rhyddhad yn rhoi gostyngiad treth o 50% i unrhyw fragdy sy'n cynhyrchu llai na 5,000hl (880,000 peint) bob blwyddyn.
Ergyd sylweddol
Dywedodd Liz Saville Roberts AS,
‘Ers ei gyflwyno yn 2002, mae’r SBR wedi caniatáu i Gymru a gweddill y DU ddatblygu sector bragdy crefft llewyrchus sy’n arwain y byd, gan gefnogi tua 6,000 o swyddi llawn amser a chyfrannu’n uniongyrchol oddeutu £270 miliwn at Gynnyrch Mewnwladol Crynswth y DU.’
‘Mae’r tŵf mewn bragwyr crefft bach ledled Cymru wedi arwain at ymddangosiad brandiau lleol nodedig gan gynnwys Cwrw Llŷn yn Nefyn, a Cader Ales Dolgellau, sydd wedi cryfhau ansawdd ac ystod diwydiant diodydd Cymru.’
‘Mae’r bragdai bach hyn wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau, yn cefnogi swyddi lleol, ac yn gwella’r hyn a gynigir gan ddarparwyr lletygarwch, gan gynnwys ein tafarndai. Ond maent wedi cael ergyd sylweddol yn sgil pandemig Covid-19.’
‘Rwan maent yn wynebu bygythiad gwaeth a phellgyrhaeddol gan lywodraeth y DU. Mae’r newid yn y dreth sy’n cael ei gynnig âg oblygiadau difrifol i fragwyr bach, annibynnol yn fy etholaeth ac yn wir ledled Cymru.’
‘Ymhell o gynnal yr egwyddorion a oedd y tu ôl i sefydlu’r SBR, o gynyddu cyflogaeth a thwf busnes, a hyrwyddo amrywiaeth o fewn y farchnad, mae sgil-effaith y newidiadau hyn yn bygwth bodolaeth bragdai bach.’
‘Dylai’r Trysorlys roi’r gorau i’r cynllun i ostwng trothwy SBR ar unwaith. Yn lle ildio i bwysau gan fusnesau mawr, dylai'r llywodraeth fod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau'r baich ar fragwyr bach sy’n haeddu cefnogaeth i dyfu a ffynnu.'
'Gallai torri'r gefnogaeth hanfodol hon rwan, pan fod cymaint o ansicrwydd yn yr economi, olygu’r diwedd i lawer o fragwyr bach annibynnol ledled Cymru. Rwy’n annog y llywodraeth i ailfeddwl.’
Niweidio cynnyrch a phrofiad
Dywedodd Myrddin ap Dafydd, cyfarwyddwr yng Nghwrw Llŷn,
‘Mae cwrw Cymru yn rhan o becyn o gynnyrch, hunaniaeth a safonau uchel Cymreig yr ydym yn mwynhau eu rhannu ag ymwelwyr i’n gwlad.’
‘Bydd llywodraeth San Steffan yn niweidio nid yn unig y cwmnïau cynhyrchu cwrw o Gymru ond hefyd yr holl brofiad i ymwelwyr yma yng Nghymru. Mae cwrw crefft o Gymru yn frand sefydledig sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr.’
‘Mae’r rhagolygon ar gyfer cynnyrch o Gymru eisoes yn llwm gyda San Steffan yn mynnu cymryd rheolaeth dros ei ddyfodol a bydd penderfyniadau pellach sy’n blaenoriaethu Llundain yn ergyd enfawr i’n marchnad.’
Creu ansicrwydd
Dywedodd Sean Meagher o Fragdy Cader Ales yn Nolgellau,
‘Mae’r newid hwn yn cynrychioli bygythiad enfawr i’m busnes bach, a mwy na 150 o fragdai annibynnol ledled y wlad.’
‘Mae cyhoeddi newidiadau posib i Ryddhad Trethi Bragdai Bach tra ein bod yn dal yng nghanol argyfwng Covid-19 yn creu cryn dipyn o ansicrwydd ac yn peryglu dyfodol bragdai bach.’
‘Dylai Llywodraeth y DU atal y codiad treth ar gyfer bragdai bach a gwrthdroi ei phenderfyniad i ostwng y trothwy o dan 5,000hl cyn ei bod yn rhy hwyr.’
Dywedodd James Calder, Prif Weithredwr Cymdeithas y Bragwyr Annibynnol (SIBA),
Mae Rhyddhad Bragdai Bach yn hanfodol ar gyfer mwyafrif helaeth y bragdai bach yn y DU sydd wedi defnyddio’r cynllun i gystadlu yn erbyn bragdai mawr, i greu swyddi lleol ac ehangu’r dewis a’r amrywiaeth o gwrw sydd ar gael.
'Mae Liz Saville Roberts wedi tynnu sylw yn y Senedd at pa mor hanfodol yw'r cynllun a pha mor niweidiol y gallai cynigion y Trysorlys fod ar gyfer cannoedd o fragdai bach ledled y DU.'
'Dylai'r Llywodraeth atal y codiad treth, gwrthdroi ei phenderfyniad i ostwng y trothwy o dan 5000hl a chefnogi ein bragdai lleol.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter