Y Senedd yn dathlu 50 mlynedd ers sefydlu Mudiad Meithrin

Mae mudiad sy’n arbenigo ym maes gofal ac addysg blynyddoedd cynnar Cymraeg yn dathlu hanner canmlwyddiant ers ei sefydlu.

Mae Mudiad Meithrin yn cael ei gydnabod fel un o brif ddarparwyr gofal ac addysg blynyddoedd cynnar Cymraeg yn y sector wirfoddol. Mae gan y Mudiad 300 o staff cyflogedig yn genedlaethol, a thros 1,500 o staff yn gweithio yn eu cylchoedd meithrin a miloedd yn fwy yn gwirfoddoli ar bwyllgorau rheoli Cylchoedd.

Ffurfiwyd Mudiad Meithrin yn 1971 gyda’r nod o gynyddu darpariaeth ysgol feithrin Cymraeg i blant Cymru. Mae’r Mudiad yn “cyfrannu'n uniongyrchol” at ddyfodol yr iaith yn ôl Plaid Cymru.

Wrth ddymuno penblwydd hapus i’r Mudiad yn 50, diolchodd Aelodau Plaid Cymru o’r Senedd y Mudiad am eu gwasanaeth i blant Cymru dros y blynyddoedd.

Yn siarad yn Siambr y Senedd, meddai Cefin Campbell AS: “Sefydlwyd Mudiad Meithrin 50 mlynedd yn ôl i wneud dau beth: i gynrychioli a rhoi llais i'r ysgolion meithrin cyfrwng Cymraeg a oedd wedi dechrau ymddangos yn y 1960au ac i ymgyrchu dros ddarparu profiad ysgol feithrin drwy gyfrwng y Gymraeg i blant Cymru ym mhob cwr o'r wlad.

“Pennaf nod Mudiad Meithrin heddiw yw gweld y cylch meithrin fel profiad pwysig yn ei hawl ei hun, gyda phwyslais ar ddysgu drwy chwarae, sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at y targed o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Gaf i ddymuno'n dda i'r mudiad dros y blynyddoedd nesaf wrth iddo wneud cyfraniad pwysig i roi sylfeini ieithyddol cadarn i'n plant a rhoi cyfleoedd chwarae ac addysg bwysig iddyn nhw yn y dyfodol. Penblwydd hapus iddyn nhw.”

Yn ôl Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon, mae gwaith Mudiad Meithrin yn “amhrisiadwy.” Meddai: “Mae dysgu iaith newydd llawer iawn haws yn ifanc, ac mae’r buddion y gall amlieithrwydd rhoi i blentyn yn ddiddiwedd.

“Dyna un rheswm amlwg iawn pam bod gwaith Mudiad Meithrin yn amhrisiadwy. Hoffwn ddiolch yn fawr iddynt, a'u llongyfarch ar gyrraedd y garreg filltir hon.”

Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor AS: “Erbyn hyn mae dros 22,000 o blant Cymru yn derbyn gwasanaeth gan Mudiad Meithrin yn wythnosol. Mae mwyafrif llethol o blant yn y Cylchoedd Meithrin yn dod o aelwyd Saesneg eu iaith sy’n profi gwir werth y Mudiad.

“Dwi’n credu mai gwaddol mwyaf y Mudiad yw na fydd mo’i angen ryw ddiwrnod, pan fydd ein cyfundrefn gofal ac addysg yn darparu’r gefnogaeth orau posib i’r plant lleiaf yn awtomatig drwy gyfrwng y Gymraeg.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Aaron Wynne
    published this page in Newyddion 2021-09-09 16:34:54 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.