Rhoi trefn ar gytundeb y DVLA yn bygwth dyfodol y gwasanaeth

Mae Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor a’r Aelod Seneddol, Liz Saville Roberts yn rhybuddio bydd cael mynediad i wasanaethau mewn swyddfeydd post lleol yn dod yn fwyfwy anodd os na fydd llywodraeth San Steffan yn cymryd camau ar unwaith i gryfhau’r rhwydwaith.

 

Cyfarfu Mr ap Gwynfor â chynrychiolwyr o Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-bostfeistri (NFSP) yn y Senedd yn ddiweddar, lle y rhannwyd pryderon ynghylch hyfywedd y rhwydwaith yn y dyfodol a’r angen i ddiogelu gwasanaethau allweddol megis bancio ac adnewyddu trwyddedau gyrru dros y cownter.

 

Mae Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor a’r Aelod Seneddol, Liz Saville Roberts yn rhybuddio bydd cael mynediad i wasanaethau mewn swyddfeydd post lleol yn dod yn fwyfwy anodd os na fydd llywodraeth San Steffan yn cymryd camau ar unwaith i gryfhau’r rhwydwaith.

Cyfarfu Mr ap Gwynfor â chynrychiolwyr o Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-bostfeistri (NFSP) yn y Senedd yn ddiweddar, lle y rhannwyd pryderon ynghylch hyfywedd y rhwydwaith yn y dyfodol a’r angen i ddiogelu gwasanaethau allweddol megis bancio ac adnewyddu trwyddedau gyrru dros y cownter.

Mae'r DVLA yn bwriadu rhoi'r gorau i'w cytundeb a'r Swyddfa Bost ym Mawrth 2024, sy'n codi pryderon ynghylch ymrwymiad Llywodraeth y DU i rwydwaith swyddfeydd post a dyfodol y gwasanaeth. 

Mae 969 o swyddfeydd post yng Nghymru yn cynnal 2,830 o swyddi. O'r 11,500 o swyddfeydd post yn y DU, mae llai na 9,500 yn ganghennau gwasanaeth llawn amser. Dros y degawd diwethaf mae siar y Swyddfa Bost o waith y DVLA wedi lleihau o 70% i tua 7%. 

Mae pryderon cynyddol ynghylch y cyflymder y mae gwasanaethau swyddfa'r post yn cael eu digideiddio gyda mynediad at wasanaethau wyneb yn wyneb dros y cownter yn lleihau. 

Mae Mr ap Gwynfor a Mrs Saville Roberts yn dweud ei bod hi'n hollbwysig bod swyddfeydd post lleol a'r gwasanaethau maent yn eu darparu i gymunedau gwledig yn cael eu gwarchod.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:

'Mae Swyddfeydd Post yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Yn anffodus, mae llawer o ganghennau gwledig bellach wedi cau, ac rydym yn gweld dirywiad cyflym gwasanaethau dros y cownter yn y canghennau sy'n weddill.'

'Mae llawer o fanciau'r stryd fawr wedi troi eu cefnau ar ein trefi ac yn annog cwsmeriaid i ddefnyddio'r swyddfa bost i gynnal trafodion ariannol. Mae hyn, er bod yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn cyfyngu ar faint o arian parod y gall pobl ei dalu mewn yn eu cangen swyddfa bost leol.'

'Mae'r cyfyngiadau hyn yn effeithio ar y swm y gall cwsmeriaid bancio personol a busnes ei dalu mewn dros y cownter yn ein swyddfeydd post. Bydd hyn yn achosi niwed sylweddol i fusnesau bach ac elusennau a sefydliadau megis capeli ac eglwysi.'

'I ddwysáu'r pwysau ar swyddfeydd post, mae'r NFSP wedi cael gwybod bod cytundeb y DVLA hefyd bellach dan fygythiad o beidio â chael ei adnewyddu.' 

'Byddai hyn yn golygu bod holl drafodion y DVLA yn dod i ben erbyn 2024. Ar hyn o bryd, mae Swyddfa'r Post yn cynnal dros 6 miliwn o drafodion DVLA bob blwyddyn.'

'Os caiff cytundeb y DVLA ei golli, bydd hyn yn cael effaith enfawr ar dâl a hyfywedd y rhwydwaith swyddfeydd post cyfan.' 

'At hynny, telir am dros hanner trafodion y DVLA a wneir dros gownteri swyddfeydd post mewn arian parod. Os caiff y cytundeb ei golli, yr unig opsiwn ar ôl fydd taliadau ar-lein.'

'Y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol a'r rhai mwyaf bregus yw'r grwpiau yr effeithir arnynt fwyaf gan y diffyg presenoldeb wyneb yn wyneb hwn. Rhannaf bryderon yr NFSP y gallai hyn arwain at dorri Deddf Cydraddoldeb 2010 a pholisi'r llywodraeth ar fynediad i arian parod.'

'Rhaid diogelu swyddfeydd post sy'n darparu'r gwasanaethau pwysig hyn yn lleol a galwaf ar lywodraeth y DU i sicrhau nad yw'r rhwydwaith swyddfeydd post yn cael ei leihau ymhellach a bod gwasanaethau canghennau lleol megis talu arian parod ac adnewyddu trwyddedau gyrru, yn parhau.'

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

'Bydd cytundeb y DVLA, sydd ar hyn o bryd yn talu swyddfeydd post i gynnig y gwasanaeth hanfodol hwn dros y cownter, yn dod i ben ym Mawrth 2024. Mae hwn yn gam a allai fod yn drychinebus a fydd yn anochel yn arwain at gau swyddfeydd post.’  

‘Mae Swyddfa’r Post yn cynnal dros 6 miliwn o drafodion DVLA bob blwyddyn, gan gyfrannu tua £3.2m y flwyddyn at daliadau postfeistri. Os caiff contract y DVLA ei golli, bydd hyn yn ergyd arall eto i dâl a hyfywedd y rhwydwaith gyfan.’

‘Mae llywodraethau olynol wedi dileu asedau rhwydwaith cynhyrchion a gwasanaethau swyddfeydd post dros nifer o flynyddoedd, gan ei gwneud yn anoddach i’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau gael mynediad at wasanaethau hanfodol.’

‘Galwaf ar lywodraeth y DU i ymyrryd ar frys i sicrhau nad yw tâl postfeistri yn cael ei dorri i’r asgwrn eto, a allai olygu na fydd postfeistri ledled Cymru bellach yn gallu darparu gwasanaethau Swyddfa’r Post yn ein cymunedau.’


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Shane Brennan
    published this page in Newyddion 2023-09-21 15:38:11 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.