PWYSAU AR FWRDD IECHYD I GYNNAL GWELYAU NYRSIO LLEOL

Mae AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i roi sicrwydd cadarn y bydd gwaith sy'n cael ei wneud i edrych ar ddyfodol gwelyau nyrsio yng Nghartref Pwylaidd Penrhos a gofal nyrsio ehangach ym Mhen Llŷn yn diogelu buddiannau preswylwyr ac yn gwarantu gofal nyrsio digonol yn y dyfodol yn yr ardal gyfagos. 

Daw sylwadau Mrs Saville Roberts yn dilyn cyhoeddiad gan y bwrdd iechyd lleol eu bod yn gweithio ar gynnig ar ddarparu gofal nyrsio ym Mhen Llyn, a fydd yn cael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd ar 14 Medi. 

Mae’r AS Plaid Cymru wedi bod yn gweithio ochr yn ochr a’r ymgyrchydd iechyd a Chadeirydd Cynghrair Iechyd gogledd Cymru Mabon ap Gwynfor a’r Cynghorydd lleol Angela Russell i ddiogelu gwelyau nyrsio yn yr ardal. 

Dywedodd Liz Saville Roberts AS, 'Rwyf wedi bod mewn trafodaethau rheolaidd gyda'r holl awdurdodau perthnasol ers i Gymdeithas Tai Gwlad Pwyl gyhoeddi eu penderfyniad i gau'r cartref nyrsio ym mis Mehefin.' 

'Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n bennaf gyfrifol am barhad y ddarpariaeth nyrsio.'

Amserlen glir

'Mae arweinwyr cymunedol yn unfrydol bod angen i bobl Llyn wybod ar frys beth yw dyfodol y gwelyau nyrsio ar y safle a sut y bydd y bwrdd iechyd yn cynnal gofal nyrsio yn yr ardal gyfagos.' 

'O ystyried lefel y pryder yn dilyn y cyhoeddiad - ymhlith cleifion, eu teuluoedd ac aelodau staff - rwy'n croesawu amserlen glir gan y bwrdd iechyd, a bydd cynigion rwan yn cael eu llunio a'u cyflwyno erbyn dechrau mis Medi.' 

'Mae penderfyniad amserol yn hanfodol i gynnal hyder y gweithlu a theuluoedd, a gallai methu â gweithredu'n gyflym ynddo'i hun, arwain at gau'r Cartref Pwylaidd.' 

'Rwyf hefyd yn annog y bwrdd iechyd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a ddefnyddir i lywio penderfyniadau strategol yn gyhoeddus er mwyn diogelu hyder y cyhoedd yn y penderfyniad terfynol.'

'Wrth iddynt lunio eu cynigion, byddwn yn apelio ar benaethiaid iechyd i gael eu harwain gan eu dyletswydd i ofal cleifion. Mae pryderon eisoes ynglŷn â capasiti gofal nyrsio yn Nwyfor.' 

'Rhaid i gynlluniau ar gyfer y dyfodol ystyried sut i gadw anwyliaid yn agos at eu teuluoedd, a sicrhau cynllunio priodol o ran cyfleusterau, staffio a chyllid.' 

'Rwy'n annog BCUHB i gyflwyno cynigion sy'n adlewyrchu'r gefnogaeth gyhoeddus ysgubol i amddiffyn gwelyau nyrsio yng Nghartref y Pwyliaid a'r angen ehangach i gynnal a gwella'r ddarpariaeth nyrsio leol ym Mhen Llyn yn y dyfodol.' 

Angen

Meddai Mabon ap Gwynfor, "Mae angen gwelyau nyrsio ar Ben Llyn. Mae'r boblogaeth yn heneiddio, a'u hanghenion yn mynd yn fwy dyrys. Ond mae angen i bobl oedranus a bregus fod yn agos i'w teuluoedd hefyd. Mae Pen Llyn yn ardal gwledig a diarffordd, ac ni ddylid disgwyl i bobl mewn oedra orfod gadael eu cynefin a'u teuluoedd oherwydd fod yna ddiffyg darpariaeth yma.

"Mae gan y Bwrddd Iechyd a'r Llywodraeth y gallu i gamu i'r adwy a sicrhau fod y ddarpariaeth yn cael ei chynnal a gwella. Mae'r amserlen yma i'w groesawu, ond mae'r neges yn glir - mae yna angen yma am y ddarpariaeth ac mae gofyn ar i'r awdurdodau sicrhau fod yr anghenion hynny yn cael eu cwrdd."

Ychwanegodd y Cyng Angela Russell, 'Rwyf wedi lobïo y Bwrdd Iechyd lleol a Llywodraeth Cymru dro ar ôl tro i leisio pryderon y gymuned, a byddaf yn parhau i weithio gydag eraill i geisio sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn gweld gwir werth darparu gwelyau nyrsio ar y safle.’ 

‘Mae gan y Bwrdd Iechyd lleol y gallu i gamu i mewn a sicrhau bod darpariaeth nid yn unig yn cael ei chynnal ym Mhenrhos, ond ein bod yn gweld gwelliannau gwirioneddol iddo.’ 

‘Mae ‘Pen Llyn yn ardal wledig wasgaredig, gyda’r holl gymlethdodau trafnidiaeth cysylltiedig. Ni ddylem ddisgwyl i’r henoed a’r bregus orfod symud i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd a’u cymunedau lleol oherwydd diffyg darpariaeth ddigonol.’ 

'Rhaid i'r Bwrdd Iechyd weithio'n adeiladol gydag eraill i sicrhau y bydd gwelyau nyrsio yn cael eu cynnal yma. Yn syml, ni allant droi eu cefnau ar Ben Llyn.' 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.