PRYDER AM GYNNYDD LLEOL MEWN HAWLIO BUDD-DAL

Y sector dwristiaeth lleol wedi ei daro'n anghymesurol gan argyfwng Covid-19

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi rhybuddio am yr effaith economaidd anghymesurol sy’n wynebu ardaloedd sy’n ddibynnol ar y diwydiant twristiaeth a lletygarwch, wrth i ddata sydd newydd ei gyhoeddi ddatgelu cynnydd sylweddol yn y nifer sy’n hawlio budd-dal ers cychwyn argyfwng Covid-19

Mae ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos mai Dwyfor Meirionnydd sydd â’r cynnydd mwyaf o holl etholaethau Cymru, ymhlith pobl sy'n hawlio budd-daliadau lles ers dechrau'r argyfwng.

Cofnododd yr etholaeth gynnydd o 124% yn y rhai sy'n hawlio Lwfans Ceisio Swyddi (JSA) a Chredyd Cynhwysol, gan fynd â chyfanswm y nifer sy'n derbyn cefnogaeth i 1,635. Mae'r ffigurau hefyd yn datgelu bod 300 o'r hawlwyr hynny rhwng 18 a 24 oed.

Mae'r ffigurau hefyd yn dangos bod 30% o fusnesau yng Ngwynedd wedi cau dros dro, sy'n uwch na cyfartaledd y DU ar 23% a chyfartaledd Cymru ar 22.7%.

Rhanbarthau sy'n ddibynnol ar dwristiaeth a lletygarwch a welodd y cynnydd canrannol mwyaf mewn hawliadau, gydag ardaloedd fel Dwyrain Dyfnaint ac Ardal y Llynnoedd yn cofnodi ffigurau tebyg.

Dywedodd AS Plaid Cymru fod y ffigurau yn 'bryderus iawn' ac mae wedi galw ar lywodraethau'r DU a Chymru i gynyddu cefnogaeth i'r sector lletygarwch, gan gynnwys ymestyn y cynllun ‘furlough’, cyflwyno pecyn cymorth penodol ar gyfer twristiaeth ar ôl llacio y cyfyngiadau, ac o leiaf 12 mis o gefnogaeth i'r diwydiant twristiaeth.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS,

‘Er bod y ffigurau hyn yn peri pryder mawr, nid wyf yn synnu bod y cyfyngiadau wedi effeithio'n anghymesurol ar ardaloedd fel Dwyfor Meirionnydd.'

'Nid oes unrhyw sector wedi cael ei daro'n galetach na'r diwydiant twristiaeth a lletygarwch, ac mae economi Dwyfor Meirionnydd yn dibynnu'n fawr ar y refeniw a gynhyrchir gan ymwelwyr, gan gynnal cannoedd o swyddi.'

'Mae'r cynnydd sydyn yn y rhai sy'n hawlio cymorth lles yn tanlinellu'r ffaith bod effaith yr argyfwng hwn yn mynd ymhell y tu hwnt i'r busnesau eiddo gwyliau a gweithgaredd uniongyrchol.'

'Mae gweithwyr, glanhawyr, garddwyr, gweithwyr cynnal a chadw, gweithwyr tymhorol yn ogystal â siopau a garejys lleol wedi cael eu taro'n ddifrifol gan yr argyfwng hwn.'

'Mae'r holl bobl ac adnoddau cymunedol hyn yn wynebu tymor yr haf anodd iawn, ac yn ofni beth fydd yr effaith ar eu hincwm blynyddol.'

'Mae'r ffigurau sobreiddiol hyn yn ei gwneud hi'n amlwg i bawb, ac nid yn unig i bobl sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r diwydiant twristiaeth, pa mor hanfodol bwysig yw'r bunt twristiaeth i'n cymunedau.'

Ychwanegodd ymgeisydd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd i Senedd Cymru Mabon ap Gwynfor,

'Roedd tua un o bob pump o'r gweithlu yn Nwyfor Meirionnydd yn hunangyflogedig cyn y pandemig hwn, bron ddwywaith cyfartaleddau Cymru a'r DU.'

'Mae'r hunangyflogedig wedi cael eu taro'n arbennig o wael, heb unrhyw becyn pwrpasol ar eu cyfer, heblaw'r Llywodraeth yn eu hannog i gofrestru ar gyfer Credyd Cynhwysol.'

'Dyma'r busnesau newydd a'r entrepreneuriaid sy'n asgwrn cefn ein heconomi, ac ni allwn fforddio eu gweld yn colli eu busnesau.'

'Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y gellir ailgychwyn eu busnesau a dechrau gweithio eto cyn gynted â phosibl.'

'Bydd hyn yn golygu sicrhau bod y Llywodraeth yn eu cefnogi trwy ei rhaglenni caffael, ac yn darparu'r gefnogaeth ariannol angenrheidiol i sicrhau eu bod yn gallu cystadlu ar gae chwarae cyfartal.'

'Dyma gyfle i unioni'r camweddau niferus y mae'r hunangyflogedig wedi'u hwynebu, megis creu rheolau cadarnach ynghylch taliadau hwyr, gwell gofal plant a chefnogaeth i rieni, datrys tâl gwyliau a thâl salwch, ymhlith materion eraill sydd wedi dal y sector-hunangyflogedig yn ôl.’

'Gallwn hefyd chwarae rhan fach trwy gefnogi busnesau a chynhyrchwyr lleol ar bob cyfle posibl.'


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.