Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Diwrnod Sylfaenwyr 2021

Ddydd Gwener 15 Hydref, nododd Prifysgol Aberystwyth 149 mlynedd ers iddi agor ei drysau am y tro cyntaf, gyda gorymdaith flynyddol Diwrnod y Sylfaenwyr o’r Hen Goleg i gicio’r bar ym mhen gogleddol y Promenâd.

Mae'r digwyddiad blynyddol yn coffáu'r diwrnod pan groesawyd 26 o fyfyrwyr i'r Hen Goleg, a oedd yn gyn-westy, gan y Prifathro Thomas Charles Edwards ym mis Hydref 1872.


Yn unol â'r traddodiad, arweiniwyd yr orymdaith gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure, ac roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o blith y myfyrwyr, aelodau staff a chynrychiolwyr etholedig ac aelodau o'r gymuned leol.
Gan fod yr Hen Goleg ar gau ar gyfer gwaith adnewyddu, cynhaliwyd derbyniad Diwrnod y Sylfaenwyr eleni yng nghanolfan gynhadledda Medrus ar gampws Penglais.


Y siaradwr gwadd eleni oedd Y Gwir Anrhydeddus Liz Saville-Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd.
Yn wreiddiol o Eltham yn Llundain, graddiodd Liz mewn Astudiaethau Celtaidd o Brifysgol Aberystwyth yn 1987. Yn ogystal, dysgodd siarad Cymraeg yn ystod ei chyfnod fel myfyrwyr yn Aber.


Wrth annerch y derbyniad, dywedodd: “Mae’n braf iawn cael bod yn ôl yma yn Aberystwyth, a derbyn gwahoddiad i nodi dyddiad sydd mor bwysig yng nghalendr y Brifysgol.


“Mae'n bleser mawr gen i weld ymrwymiad y Brifysgol i Gymru fel cenedl sy’n gynyddol hyderus ymysg cenhedloedd y byd. Mae'r myfyrwyr sy'n teithio yma o bell ac agos, fel y gwnes i fy hun, yn dod i Aberystwyth i gael eu trawsnewid. Mae'r genhedlaeth hon wedi profi rhwystrau, na fu'n rhaid i ni eu dioddef erioed, a bydd eu profiadau yn ystod eu cyfnod yma yn hanfodol ar gyfer eu lles a'u gyrfaoedd. Y wybodaeth a'r sgiliau a roddwyd iddynt gan y Brifysgol hon fydd yr offer a fydd yn eu galluogi i lunio dyfodol dynoliaeth yn ein hamgylchedd bregus. Ac am hynny, mi fyddai’n sylfaenwyr yn falch.”


Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure: “Roedd yn hyfryd cael croesawu pawb i’n dathliad Diwrnod y Sylfaenwyr eleni. Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn heriol iawn i bawb ac roedd yn hyfryd gallu cwrdd â chynrychiolwyr o'r dref a'r gymuned ehangach wyneb yn wyneb a diolch iddynt am eu cefnogaeth yn ystod y pandemig. Mae hanes y Brifysgol yn un o bobl o bob cefndir yn dod ynghyd i wireddu gweledigaeth, un sydd heddiw’n darparu un o'r profiadau myfyrwyr gorau yn y DU gyfan. Y cydweithio agos hwn rhwng y Brifysgol, sefydliadau lleol, darparwyr iechyd a’r gymuned ehangach sydd wedi ein cynnal yn ystod y cyfnod anodd hwn. Fe’n galluogodd yma yn y Brifysgol i barhau i ddarparu profiad dysgu rhagorol i’n myfyrwyr, er gwaethaf y cyfyngiadau a fu ar waith.”


Bydd Diwrnod y Sylfaenwyr 2022 yn rhan o ddathliadau 150 mlwyddiant y Brifysgol, carreg filltir bwysig y mae'r Brifysgol yn dymuno ei rhannu â chymaint o'i myfyrwyr, staff, aelodau o'r gymuned leol, cyn-fyfyrwyr a ffrindiau o amgylch y byd. Bydd y flwyddyn hefyd yn nodi pen-blwydd arbennig Cymdeithas y Cyn Fyfyrwyr yn 130 oed.


Er na fu’n bosibl dathlu yn yr Hen Goleg eleni, mae'r prosiect i drawsnewid yr adeilad eiconig yn ganolfan fywiog ar gyfer dysgu, diwylliant a menter ac yn gatalydd o bwys ar gyfer datblygu Aberystwyth yn gwneud cynnydd cryf.


Datblygwyd yr Hen Goleg yn wreiddiol fel gwesty gan y contractwr rheilffordd Thomas Savin. Cafodd yr adeilad ei brynu ym 1867 a’i addasu’n gartref i’r Brifysgol mewn pryd ar gyfer croesawu’r myfyrwyr cyntaf ym mis Hydref 1872.


Ymhlith y pynciau ar y cwricwlwm bryd hynny oedd Cemeg, Ieitheg Gymharol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Ffrangeg, Daearyddiaeth, Almaeneg, Groeg, Hebraeg (hefyd Arabeg, Syrieg, Sanskrit, Twrceg a Pherseg), Hanes, Eidaleg, Lladin, Rhesymeg ac Athroniaeth, Mathemateg, Gwyddorau Naturiol a Seryddiaeth.


O'r cychwyn cyntaf, bu cyfraniadau ariannol gan y cyhoedd yn bwysig iawn i ddatblygiad y Brifysgol. Ym 1875 datganodd capeli ledled Cymru y byddai casgliad yn cael ei wneud ar gyfer y Brifysgol ar Sul olaf mis Hydref, Sul y Brifysgol. Cyfrannodd dros 70,000 o bobl a chasglwyd £3,100.
Os am wybod mwy am hanes Prifysgol Aberystwyth ewch i wefan Hanes Prifysgol Aberystwyth.


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Aaron Wynne
    published this page in Newyddion 2021-10-22 09:32:28 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.