Cadw gwlau nyrsio ym Mhen Llŷn

Rydym yn galw ar i'r Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru i sicrhau fod yna wlau nyrsio yn parhau ym Mhen Llŷn

Mae yna bryderon ynghylch dyfodol gwlau nyrsio Penrhos, yn dilyn y newyddion fod y Polish Housing Society yn cau Penrhos.

Mae yna obeithion y bydd sefydliad arall yn cymryd y safle ymlaen, ond mae yna amheuaeth ynghylch y gwelyau nyrsio.

Mae Penrhos wedi chwarae rhan bwysig yn hanes diweddar Pen Llŷn, ac mae'n gartref nyrsio ar gyfer trigolion yr ardal.

Nid oes yna gartref nyrsio arall ym Mhen Llŷn, a byddai rhaid i bobl deithio i Gricieth, Porthmadog, neu ymhellach er mwyn cael lle mewn cartref nyrsio arall.

Mae yna alw ac angen am welyau nyrsio ym Mhen Llŷn.

Rol y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru ydy sicrhau fod yna ddarpariaeth ar gyfer ein anghenion. Wrth i'r boblogaeth heneiddio, a thrafferthion iechyd fynd yn fwy dyrys, mae'r galw am welyau nyrsio felly yn cynyddu.

Galwn ar i Lywodraeth Cymru a'r Bwrdd Iechyd gydweithio er mwyn sicrhau fod gofal gwelyau nyrsio yn parhau i fod yma ym Mhen Llŷn.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.