Bydd Cynghorydd o Lŷn yng nghyfarfod cyngor llawn Gwynedd heddiw (dydd Iau 5 Mawrth), yn pwyso am newid i ffurflen 'Ymholiad Aelwyd Blynyddol' i bob cartref wrth bleidleisio fel bod modd nodi dewis o ran cenedligrwydd ar y ffurflen.
Ar hyn o bryd, dim ond blwch ‘Prydeinig’ sydd ar y ffurflen gan Llywodraeth San Steffan, felly does dim modd nodi eich cenedligrwydd fel Cymraes, Albanwr, Gwyddeles a.y.y.b. Mae bygythiad am ddirwy o £1,000 os nad yw’r ffurflen wedi ei chofnodi’n gywir.
Yn ôl y Cynghorydd Gareth Tudor Morris Jones, cynrychiolydd trigolion Morfa Nefyn ac Edern ar Gyngor Gwynedd: “Yn yr unfed ganrif ar hugain, a chyda llywodraeth ein hunain yma yng Nghymru, siawns y gallwn ni gael blwch sy’n rhoi’r dewis i unigolion nodi ei cenedligrwydd. Mae’n hawl sylfaenol i bob unigolyn.
“Mae nifer o etholwyr wedi cwyno wrthyf, bod hi’n hen bryd pwyso am newid. Mae’r blwch Prydeinig eisoes wedi ei llenwi’n awtomataidd gyda chroes, ffaith sy’n fy nghythruddo i’n arw!
Yn ôl Cadeirydd y Blaid yng Ngwynedd, Elin Walker Jones: “Mae hwn yn fater sydd wedi ei drafod yn y cyngor llawn yn y gorffennol, ac rydym yn parhau yn rhwystredig gydag ymateb llugoer Llywodraeth San Steffan.
“Diolch i’r Cynghorydd Jones am ail danio’r mater ac i’n Aelod Seneddol, Liz Saville Roberts dros Ddwyfor Meirionnydd am anfon gohebiaeth unwaith yn rhagor at Gadeirydd y Pwyllgor Llefaru ar Gomisiwn Etholiadol yn y Tŷ Cyffredin yn pwyso am newid i’r ddeddf etholiadol.
“Mae’n hollbwysig ein bod fel Cymry yn cael nodi ein cenedligrwydd ar ffurflenni pleidleisio yn ogystal â dogfennaeth eraill, megis pasbort neu drwydded yrru, ac mae Grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn awyddus i bwyso am y newid hwn.”
Yn ôl y Cynghorydd Gareth Jones: “Rydym eisoes fel Cynghorwyr y Blaid yng Ngwynedd wedi clywed yr wythnos hon ein bod wedi llwyddo i bwyso am newid am gydraddoldeb i unigolion sy’n awyddus i nodi ei cenedligrwydd a’i tras ar ffurflen y Censws 2021 sy’n newyddion gwych!
“Dwi’n galw nawr i ni gael nodi’r un hawliau ar y ffurflen ymholiad aelwyd blynyddol gan Adran Llywodraeth San Steffan (gov.uk) yn barod ar gyfer etholiad y Cynulliad 2021. Mae’n fwy amserol nag erioed a ninnau newydd ddathlu dydd ein nawddsant. Gwnewch y pethau bychain meddai Dewi Sant, mae’n hen bryd i Lywodraeth San Steffan barchu ein hawl i nodi mai Cymry, Albanwyr, Gwyddelod ac ati, ydyn ni.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter