Cefnogaeth ‘lethol’ i ganolfan ranbarthol unswydd i ostwng cyfraddau marwolaethau
Mae gwleidyddion Plaid Cymru Mabon ap Gwynfor a Sian Gwenllian a’r ymgyrchwraig Becky Williams wedi ail-adrodd galwadau am ganolfan diagnosis am ganser yng ngogledd Cymru, wedi i ffigyrau newydd ddangos fod pobl yn y gogledd yn wynebu llawer mwy o siawns o ddatblygu canser na gweddill Cymru.
Yn ôl adroddiad rhanbarthol newydd gan Ymchwil Cancr y Gogledd-Orllewin mae pobl sy’n byw yng ngogledd Cymru yn wynebu risg uwch o ddatblygu canser na gweddill y wlad.
Dywed yr ymchwil fod gan ogledd Cymru ‘nifer o heriau iechyd penodol’ a ‘gor-fynegeion ar 17 math o ganser’ o gymharu â’r cyfartaledd Cymreig.
Yn ôl yr ymchwil, mae 18% yn uwch o ddigwyddiadau cyfartalog o ganser y pen a’r gwddf na gweddill Cymru. Mae gan y gogledd hefyd gyfraddau arwyddocaol uwch o ganser y coluddyn na gweddill y wlad, gyda chyfradd digwyddiadau sydd 18% yn uwch na’r cyfartaledd. Mae gan dair o’r siroedd yn yr arolwg yn y gogledd “gyfraddau sylweddol uwch” o ganser y fron na’r cyfartaledd cenedlaethol, gyda chyfraddau cyffredinol canser y fron yn y gogledd 15% yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.
Bu ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionydd yn etholiad y Senedd yn 2021 Mabon ap Gwynfor ac AC Plaid Cymru dros Arfon Sian Gwenllian ill dau wedi bod yn ymgyrchu dros ganolfan ddiagnosis cyflym yng ngogledd Cymru.
Ategwyd y galwadau gan yr ymgyrchwraig leol Becky Williams, gweddw’r ymgyrchydd canser Irfon Williams a ddefnyddiodd ei ddiagnosis o ganser y coluddyn i amlygu’r ffaith fod cleifion canser yng Nghymru yn ei chael yn fwy anodd cyrchu triniaethau canser na gweddill y DG.
Datgelodd ffigyrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar am farwolaethau mai canser yw’r achos unigol mwyaf o farwolaeth yn y gogledd, gyda 2,291 o’r 8,156 o farwolaethau a gofnodwyd i’w priodoli i’r clefyd.
Canfu astudiaeth gan Ganolfan Iechyd ac Economeg Prifysgol Abertawe fod amseroedd aros i gleifion a welwyd mewn canolfannau diagnostig cyflym wedi eu torri i lai na chwe diwrnod, gostyngiad o 92% mewn amseroedd aros yn y flwyddyn gyntaf.
Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionydd yn etholiad y Senedd yn 2021 Mabon ap Gwynfor, "Mae ymchwil yn dangos fod canolfannau diagnosis cyflym yn gostwng amseroedd cymedrig tan ddiagnosis o 84 diwrnod i chwe diwrnod. Mae diagnosis cynnar yn hanfodol er mwyn gwella’r canlyniadau i gleifion.
“Dyna pam fod arnom angen mwy o ganolfannau diagnostig ledled Cymru, yn enwedig yma yn y gogledd gwledig.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal cynllun peilot gyda chanolfannau diagnostig cyflym mewn dau o ardaloedd byrddau iechyd de Cymru a dywed pawb eu bod yn llwyddiant ysgubol. Mae cleifion yn Nwyfor Meirionnydd a ledled y gogledd yn haeddu’r un math o wasanaeth, a dyna pam y mae Plaid Cymru yn pwyso am fuddsoddi yn natblygu canolfannau diagnostig yma er mwyn cael diagnosis cynnal a gwell canlyniadau i’n cleifion."
Meddai’r ymgyrchwraig leol Becky Williams, “Rwyf yn cefnogi galwad Plaid Cymru am ganolfan diagnosis cyflym yng ngogledd Cymru.
“Gan Gymru y mae rhai o’r canlyniadau gwaethaf yn Ewrop o ran canser y coluddyn – ac un o’r cyfraddau isaf am oroesi canser yn Ewrop. Rydym yn gwybod fod diagnosis a thriniaeth gynnar, nid dim ond i ganser y coluddyn ond pob math o ganser yn arwain at well canlyniadau i gleifion.
"Diagnosis cynnar yw’r gwahaniaeth rhwng byw a marw – mae mor syml â hynny."
Ychwanegodd AC Plaid Cymru dros Arfon Sian Gwenllian, “Mae ymchwil wedi dangos fod pobl yng ngogledd Cymru yn wynebu risg llawer uwch o ddatblygu canser na gweddill Cymru, ond does gennym ni ddim canolfan diagnosis cynnar yma yn y gogledd.
“Mae cleifion yng ngogledd Cymru yn haeddu cydraddoldeb gofal a gwasanaeth. Dyna pam fod Plaid Cymru yn galw am fuddsoddi yn natblygu canolfan ddiagnostig yma yng ngogledd-orllewin Cymru i sicrhau diagnosis cynnar a gwell canlyniadau i’n cleifion.
“Mae Plaid Cymru eisiau sicrhau y gall pawb gael profion diagnostig a diagnosis cynnar ymhen 28 diwrnod a buasem yn datblygu tair o Ganolfannau Diagnostig Brys yng Nghymru i gael profion yn gynt. Buasem yn ei gwneud yn haws i feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol i gyfeirio cleifion i’r canolfannau hyn."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter