CYMUNEDAU GWYNEDD YN DIODDEF YN AGHYMESUROL OHERWYDD DIFFYG BAND EANG

ARGYFWNG COVID YN AMLYGU YR ANGEN I GAU'R BWLCH DIGIDOL MEDD AS PLAID CYMRU

Dywed AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, y dylai ffigyrau sy’n dangos fod cymunedau yng Ngwynedd ymhlith y rhai a wasanaethir waethaf yn y DU am fynediad at fand eang cyflym iawn, fod yn destun pryder i lywodraeth y DU a Chymru sydd wedi methu â gwneud digon i unioni’r rhaniad digidol sy'n effeithio'n anghymesurol ar ardaloedd gwledig. 

Roedd AS Plaid Cymru yn ymateb i adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan OFCOM, sy’n dangos bod dros 18% o aelwydydd Dwyfor Meirionnydd yn derbyn cyflymder band eang sy’n llai na 10Mb/s, y trothwy cymhwysedd a osodwyd gan lywodraeth y DU ar gyfer uwchraddio rhwydwaith. 

Mae ffigurau hefyd yn dangos bod cyflymderau llawrlwytho ar gyfartaledd yn yr etholaeth (41.2%) yn sylweddol is na chyfartaledd Cymru (58.3%) a'r DU (72.9%), gyda chymunedau Abersoch, Aberdaron, Bala, Mawddwy, Cricieth a Llanaelhaearn ymhlith y gwaethaf yn y DU ar gyfer cyflymderau band eang. 

Mae Mrs Saville Roberts wedi pwyso ers amser ar lywodraethau y DU a Chymru ynghyd a darparwyr band eang i ddyblu ymdrechion i bontio'r rhaniad rhwng ardaloedd gwledig a threfol o ran darparu mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy. 

Mae Mrs Saville Roberts wedi cefnogi ymdrechion llwydiannus i wella cysylltedd band eang mewn sawl cymuned ar draws yr etholaeth, megis Rhydymain, Llanelltyd, Llanymawddwy a Llwyndyrys ond dywed fod mwy o waith angen ei wneud i sicrhau fod pob cymuned a chartref yn derbyn band eang cyflym.  

Dywedodd Liz Saville Roberts AS: 

'Mae'r ffigyrau hyn unwaith eto yn tanlinellu y rhaniad anghymesurol rhwng yr ardaloedd hynny sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn, a'r cymunedau gwledig hynny, fel y rhai yr wyf yn eu cynrychioli, sy'n methu â chyflawni cyflymder llawrlwytho sylfaenol y Llywodraeth o 10Mb/s.' 

'Er gwelliannau mewn rhai ardaloedd, mae llawer o fy etholwyr yn parhau i fethu â derbyn yr hyn y mae Ofcom yn ei gydnabod fel y cyflymder angenrheidiol i roi profiad derbyniol i ddefnyddwyr; sy'n ofynnol ar gyfer defnydd sylfaenol fel pori'r we a galwadau fideo - pethau hanfodol yn ystod y cyfnod cloi.' 

'Mae Dwyfor Meirionnydd ymhlith yr ardaloedd sy'n cael ei wasanaethu waethaf ar gyfer mynediad at fand eang cyflym iawn - rhywbeth sydd bellach wedi dod yn un o wasanaethau hanfodol bywyd, ac mae gan ei ddibynadwyedd ganlyniadau pellgyrhaeddol i'r rheini sy'n gweithio ac yn astudio adref.'  

'Bydd ein heconomi wledig ôl-Covid yn gweld mwy o bobl yn cael cynnig y cyfle i weithio o adref. Dyna pam fod uwchraddio seilwaith digidol mewn ardaloedd gwledig yn bwysicach nag erioed, i sicrhau nad yw'r economi wledig dan anfantais bellach.'  

'Fel yr amlygodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ddiweddar, mae risg i bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig gael eu gadael ar ôl os na fydd y llywodraeth yn cymryd camau ar unwaith i unioni’r rhaniad digidol sy'n effeithio ar gymunedau gwledig.' 

'Mae'r sefyllfa bresennol nid yn unig yn anghyfleustra i fusnesau ond mae hefyd yn gwadu cyfle i weithwyr fanteisio i'r eithaf ar hyblygrwydd yn y farchnad swyddi, wrth i weithio o adref ddod yn fwy cyffredin.' 

'Dyma feirniadaeth ddamniol arall o Lywodraethau Cymru a'r DU sydd wedi blaenoriaethu ardaloedd hawdd eu cyrraedd yn gyntaf - ardaloedd a oedd eisoes â band eang da - er anfantais i gefn gwlad Cymru.' 

'Os ydym am gryfhau a gwella ein heconomi wledig ar ôl Covid, yna mae'n rhaid i ni sicrhau bod gan bawb fynediad at fand eang cyflym a dibynadwy, fel yr ydym yn ei ddisgwyl gan ein gwasanaethau trydan a dŵr.' 

Dywedodd Ymgeisydd Senedd Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd Mabon ap Gwynfor: 

'Nid yw band eang da - mwy na 30mb/s - yn foethusrwydd mwyach, mae’n un o hanfodion bywyd. Mae pobl yn gweithio, addysgu, gwneud busnes, siopau a llawer mwy ar-lein.' 

‘Ymddengys bod Openreach yn penderfynu a ddylai cymunedau gael mynediad at fand eang cyflym yn seiliedig ar fforddiadwyedd ai peidio, ond nid oedd hyn erioed yn ystyriaeth wrth sicrhau bod dŵr a thrydan yn cael eu cyflenwi, a dylai fod yr un peth â band eang hefyd.’ 

‘Ni ddylid gadael unrhyw gymuned na chartref ar ôl, a gwaith y Llywodraeth yw sicrhau bod gwasanaethau hanfodol ar gael i bawb.’ 

‘Os na fydd Openreach yn gwneud y gwaith, yna dylai’r llywodraeth sicrhau bod yr arian a’r arbenigedd yn cael eu darparu i’n cymunedau i’w galluogi i ddilyn modelau fel model Guifi yng Nghatalunya, sy’n wasanaeth a redir gan y gymuned gyda chefnogaeth y llywodraeth ddatganoledig.’ 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Mabon ap Gwynfor
    published this page in Newyddion 2021-02-23 16:32:16 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.