CYMUNED YN TEIMLO’N YNYSIG WRTH I WASANAETH POBLOGAIDD Y T2 GEFNU Â GARNDOLBENMAEN

Mae penaethiaid trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn cael eu hannog i wyrdroi penderfyniad i gael gwared ar wasanaeth bws y T2 trwy bentref Garndolbenmaen, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus i wrthwynebu penderfyniad i diddymu’r gwasanaeth allweddol.

Hyd at yn ddiweddar, roedd Garndolbenmaen yn cael ei wasanaethu gan 18 gwasanaeth bws T2 bob dydd a 5 gwasanaeth ar y Sul. Ond yn dilyn newid i’r amserlen, mae'r gwasanaethau hynny bellach wedi'u dileu, gan achosi pryder yn y gymuned leol.

 

Mae penaethiaid trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn cael eu hannog i wyrdroi penderfyniad i gael gwared ar wasanaeth bws y T2 trwy bentref Garndolbenmaen, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus i wrthwynebu penderfyniad i diddymu’r gwasanaeth allweddol.

Hyd at yn ddiweddar, roedd Garndolbenmaen yn cael ei wasanaethu gan 18 gwasanaeth bws T2 bob dydd a 5 gwasanaeth ar y Sul. Ond yn dilyn newid i’r amserlen, mae'r gwasanaethau hynny bellach wedi'u dileu, gan achosi pryder yn y gymuned leol.

Mae galwadau cymunedol i adfer y gwasanaeth wedi cael eu cefnogi gan y Cynghorydd lleol Steve Churchman ac AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor - a bu'r ddau yn annerch y cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Bentref Garn.

Roedd gwasanaeth y T2 yn cael ei ddefnyddio gan drigolion o bob oed ac i nifer, hwn oedd eu hunig ffordd o deithio y tu allan i'r pentref er mwyn cael mynediad at wasanaethau fel apwyntiadau meddygol, siopa bwyd a thasgau o dydd i ddydd eraill.

Wrth siarad yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS fod diffyg ymgynghori ystyrlon gyda'r gymuned leol yn dangos diystyrwch o ran anghenion ei etholwyr, yn enwedig yr henoed a'r rhai sy'n dibynnu'n llwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae deiseb wedi ei sefydlu yn galw am ddychwelyd y T2 i Garndolbenmaen: https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/245954

Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:

'Mae cael gwared ar wasanaeth bws y T2 trwy bentref Garndolbenmaen wedi achosi pryder mawr i bobl leol, yn enwedig i’r rhai sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynd i’r gwaith, yr ysgol neu i gael mynediad at wasanaethau hanfodol fel mynychu apwyntiadau meddygol.'

'Mae gan Garndolbenmaen boblogaeth hŷn, llawer ohonynt ddim yn gyrru ac felly eu hunig ffordd o deithio y tu allan i’r pentref yw ar fws. Does dim siop, felly rhaid i bobl deithio i Borthmadog i wneud eu siopa.' 

'Mae llawer o drigolion yn mynychu Ysbyty Gwynedd yn aml ar gyfer eu hanghenion iechyd, ac roedd y T2 yn darparu trosglwyddiad uniongyrchol, dibynadwy o Garndolbenmaen i Fangor.'

'Bydd cael gwared ar y gwasanaeth T2 yn cael effaith sylweddol ar amseroedd teithio, gan ychwanegu deugain munud ychwanegol at y daith o Garndolbenmaen i Fangor. Mae'n eironig braidd fod gan lawer sy'n byw yng Ngarndolbenmaen docyn bws ond bellach wedi cael eu gadael heb fws!'

'Mae diddymu’r cyswllt cymunedol hanfodol hwn heb unrhyw ystyriaeth i anghenion a lles pobl leol yn amlwg yn annheg ac yn gwneud gwawd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) Llywodraeth Cymru.' 

 'Ofnaf na fydd y penderfyniad hwn ond yn gwaethygu effaith yr argyfwng costau byw ar ein rhai mwyaf bregus, gyda’r henoed yn dod yn fwy ynysig a’r rhai ar incwm isel yn methu â chael mynediad at ddulliau trafnidiaeth amgen.' 

 

'Galwaf ar Lywodraeth Cymru i ddod yn ôl at y bwrdd gydag amserlen ddiwygiedig sy’n mynd i’r afael â phryderon y gymuned leol, adfer gwasanaeth y T2 i Garndolbenmaen a rhoi anghenion defnyddwyr trafnidiaeth cyn unrhyw benderfyniad masnachol.' 

 

'Byddwn hefyd yn annog cymaint o bobl â phosibl i lofnodi’r ddeiseb yn galw am adfer y gwasanaeth.' 

 

Dywedodd y Cynghorydd Steve Churchman:   

 

'Cyflwynwyd newidiadau sylweddol i wasanaethau bysiau drwy Garndolbenmaen a Phenmorfa heb unrhyw ymgynghori. Mae'r newidiadau wedi arwain at drigolion yn methu â chyrraedd nac dychwelyd o'u gwaith ac yn eu hamddifadu o fywyd cymdeithasol.'

 

'Mae anghenion myfyrwyr wedi cael ei diystyru ac mae mynediad i ofal meddygol yn Ysbyty Gwynedd i unrhyw un heb gar yn amhosibl gyda'r nos ac ar y Sul.' 

 

'Pe ymgynghorwyd â'r gymuned ar y newidiadau hyn ymlaen llaw, gellid bod wedi codi'r diffygion hyn ac efallai mynd i'r afael â hwy. Yn lle hynny mae'r gwasanaeth yn gwbl anymarferol ac yn gadael trigolion yn ynysig.'

 

'Mae galwadau trigolion lleol am adolygiad brys yn seiliedig ar bryderon gwirioneddol. Gofynnaf i Lywodraeth Cymru ailystyried y penderfyniad sydd wedi gadael ein cymunedau bron yn hollol ynysig.'


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Shane Brennan
    published this page in Newyddion 2024-01-16 10:24:34 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.