Croesawu datganiad y bydd yr Eisteddfod yn ymweld a Boduan yn 2021

Mae’r newyddion fod yr Eisteddfod Genedlaethol am ddod i Boduan, Llŷn, yn 2021 wedi cael ei groesawi’n arw gan arweinwyr cymunedol yn yr ardal.

Meddai Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd a chyn gynghorydd dros ward Morfa Nefyn: “Mae hyn yn newyddion rhagorol, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw i groesawi’r Eisteddfod i Foduan.

“Rhaid diolch i’r gwahanol dir-feddianwyr yn yr ardal am eu cydweithrediad gyda’r Eisteddfod, ac hefyd i Gyngor Sir Gwynedd am eu gwaith trwyadl yn paratoi’r cais.

“Mae gan Boduan y fantais o fod yn le sych gyda hinsawdd mwyn iawn gan fod yn gyfleus i Nefyn a Phwllheli.

“Mae Llŷn ac Eifionydd yn ardal hynod sydd a chyfoeth o hanes a diwylliant yn perthyn iddi, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw am y cyfle i ddangos godidowgrwydd yr ardal i bobl Cymru. Bydd yna groeso cynnes i bobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt ym Moduan yn 2021."

Meddai Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol yn Nwyfor Meirionnydd: “Mae hyn yn newyddion arbennig o dda i’r ardal.

“Mae’r Eisteddfod yn dod a budd economaidd ond hefyd budd diwylliannol i unrhyw ardal. Bydd yr ardal hon yn cael budd, heb os, ond rwy’n sicr y caiff yr Eisteddfod a’i hymwelwyr fudd amhrisiadwy drwy ymweld a Llŷn ac Eifionydd. 

"Mae am fod yn her o ran yr isadeiledd, gan sicrhau fod y trafnidiaeth yn rhedeg yn llyfn, ond dangosodd yr Eisteddfod Genedlaethol eu bont yn medru dygymod a phob math o her yn ddiffwdan yn yr Eisteddfod wych a gafwyd yn Llanrwst eleni. Mae yna ddwy flynedd caled o waith o’n blaenau rwan wrth baratoi i groesawu’r Eisteddfod i Foduan, ond mae pawb yn edrych ymlaen at y dasg er mwyn sicrhau y cawn yr Eisteddfod orau posib yma yn 2021.

“Mae’r ardal eisoes yn nodedig am ei harddwch eithriadol, ond caiff Eisteddfodwyr gyfle i brofi cynhesrwydd a chroeso pobl yr ardal. Mi fydd Eisteddfod Boduan yn 2021 yn wych, mae hynny’n sicr”.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.