Mae Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd yn falch o longyfarch, croesawu a chefnogi Mabon ap Gwynfor fel ymgeisydd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd ar gyfer etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021.
Yn ôl Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfrig Siencyn: “Bu’r ornest i ddewis ymgeisydd yn ysbrydoliaeth i aelodau Dwyfor Meirionnydd gyda chwe ymgeisydd cryf oedd ag awch i wneud gwahaniaeth i gymunedau’r etholaeth ac i gyfrannu at y tîm fydd yn llywodraethu Cymru ar ôl yr etholiad nesaf.
“Llwyddodd Mabon ap Gwynfor i ennyn cefnogaeth yr aelodau ac mae’n braf croesawu gŵr ifanc sydd ag angerdd at y gwaith o drawsnewid Cymru.”
Gweithiodd Mabon yn Nwyfor Meirionnydd am rai blynyddoedd gyda’r cyn Aelod Seneddol Elfyn Llwyd. Yn ŵyr i’r diweddar Gwynfor Evans, Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru a chyn Lywydd y Blaid, mae’n briod a chanddo bedwar o blant. Mae wedi meithrin ei grefft, fel Cynghorydd Cymuned a Thref a bellach mae’n Gynghorydd Sir dros Ward Llandrillo.
Yn ôl Dyfrig Siencyn: “Fel Cynghorwyr yma yng Ngwynedd, ac fel plaid sy’n arwain Cyngor Gwynedd, mae Plaid Cymru Gwynedd yn falch o gydweithio gyda Mabon ap Gwynfor yn ei ymgyrch i gyrraedd at etholwyr yma yn Nwyfor Meirionnydd. Mae ei ddaliadau ynglŷn â hyrwyddo twf economaidd mewn ardaloedd gwledig, annog swyddi o safon yn Nwyfor Meirionnydd, meithrin sgiliau a safon addysg i blant a phobl ifanc, sicrhau tai sy’n fforddiadwy i gymunedau a hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg i’w ganmol yn fawr.”
Yn ôl Mabon ap Gwynfor: “Mae’r croeso ar lawr gwlad i’m rôl fel ymgeisydd Cynulliad yn Nwyfor Meirionnydd yn gynnes iawn. Dwi’n ddiolchgar iawn i gynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd am eu cefnogaeth dros yr wythnosau diwethaf, a dwi’n edrych ymlaen at gydweithio â nhw dros y misoedd nesaf.
“Ces gyfle dros yr haf i sgwrsio gyda nifer o etholwyr yr ardal yn Sioe Sir Feirionnydd, yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ym mhentrefi a chymunedau’r ardal. Dwi wedi dechrau ar raglen o ymweld â phob cymuned yn yr etholaeth a churo drysau pobl ym mhob cornel o Ddwyfor Meirionnydd er mwyn gwrando ar barn a dyheadau y bobl.”
“Fy uchelgais yw ceisio creu cymdeithas decach, lle gall pobl fwynhau byw, gweithio a chymdeithasu o fewn cymunedau llewyrchus. Rhaid i ni fod yn uchelgeisiol o fewn Cymru, anelu’n uchel a chreu amgylchedd sy’n elwa ein trigolion. Edrychaf ymlaen at barhau i sgwrsio â phobl dros y misoedd sydd i ddod.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter