AS LLEOL YN GALW AM GANOLFANNAU PROFI COVID-19 YN NWYFOR A MEIRIONNYDD

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sefydlu canolfannau profi cymunedol lleol pwrpasol ar gyfer pobl sy'n byw yn ardal Dwyfor a Meirionnydd sydd â symptomau Covid-19. 

Er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i agor canolfan brofi ym Mangor, nid oes darpariaeth barhaol ar gyfer y rhai sy'n byw yn Nwyfor a Meirionnydd, gyda'r canolfannau profi gweithredol amgen agosaf yn Aberystwyth a Llandudno. 

Dywedodd Liz Saville Roberts AS, 

‘O ystyried yr angen hanfodol am brofion ehangach, siawns mai rwan yw’r amser i edrych ar sefydlu canolfannau profi cymunedol pwrpasol i ddarparu cyfleusterau lleol, hygyrch i boblogaeth ehangach Gwynedd i gael eu profi.’ 

'Gydag achosion ar gynnydd a gaeaf heriol yn debygol iawn, mae pobl sy'n byw yn fy etholaeth wledig yn haeddu sicrwydd pe byddent yn mynd yn sâl ac angen prawf, yna byddai ganddynt fynediad parod i un mor agos i'w cartref â phosib.' 

'Mae cwestiwn sylfaenol yma ynghylch y ffordd orau o ddarparu gwasanaeth profi ehangach i'r cyhoedd. Os yw eisoes yn bosib profi rhai pobl yn eu cymuned, rhaid cwestiynu’r rhesymeg y tu ôl i’w gwneud yn ofynnol i eraill deithio pellteroedd i gael prawf?’ 

‘Bydd llawer o bobl sydd angen prawf eisoes yn sâl, ac ymddengys bod y siwrnai ychwanegol a osodir arnynt fel arall yn dangos diffyg tosturi yn ogystal â bod yn ddiangen.’ 

'Mae Bangor er enghraifft, yn bell i lawer o boblogaeth Dwyfor a Meirionnydd, sef rhanbarth fwyaf deheuol ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.' 

'Beth sy'n atal mwy o ddefnydd o Ysbyty Alltwen, Tremadog, ar gyfer profi aelodau'r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr allweddol?' 

'Rwy'n deall bod y Bwrdd Iechyd eisoes yn barod i gynnig profion i'r cyhoedd os na allant gael mynediad at brofion yn rhywle arall, ond nid yw'n eglur sut mae pobl yn cael gwybod am y trefniant hwn, a hefyd sut maent yn gofyn am brofion.' 

'Dylai llywodraeth Cymru lynnu at eu haddewid y dylai pawb gael mynediad i brawf Covid-19 o fewn ugain milltir i'w cartref - hyd yma, nid ydynt wedi cwrdd â’r ymrwymiad yma.’ 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.