Mae llefarydd Plaid Cymru dros faterion tai a chynllunio, Mabon ap Gwynfor AS, wedi ail-adrodd ei alwadau i'r Llywodraeth weithredu i daclo'r argyfwng tai yng Nghymru.
Cyn rali Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar dai ddydd Sadwrn, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS, llefarydd Plaid Cymru ar dai a chynllunio:
“Mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson dros ddegawdau lawer yn ein galwadau ar Lywodraeth i gymryd camau i ddatrys yr argyfwng tai - gyda ail gartrefi ond yn un rhan o greisis ehangach.
“Mae angen i ni weld cyfraith gynllunio’n newid fel bod newid yn nefnydd gyfreithiol y rhai sy’n dymuno prynu tŷ fel ail gartref neu fel buddsoddiad gwyliau; mae angen cynyddu’r Dreth Trafodiadau Tir yn sylweddol ar ail gartrefi; mae angen cau’r bwlch cyfreithiol (loophole) sy’n caniatáu i berchnogion droi eu heiddo’n fusnes er mwyn osgoi talu Treth y Cyngor; ac mae angen rheoleiddio cartrefi gwyliau tymor byr gyda threfn drwyddedu.
“Nid argyfwng sy’n wynebu ychydig o gymunedau yw’r broblem o fforddiadwyedd a phobl yn cael eu prisio allan o’u cymunedau – mae hwn yn argyfwng cenedlaethol, ac mae angen cymryd camau i reoli pris tai a rhenti fel eu bod yn adlewyrchu’r economi leol yn well. Mae cymunedau yng Nghaerdydd, Gwent, Wrecsam, yn ogystal ag arfordir gorllewin Cymru yn galw am ymyrraeth a hynny ar frys.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter