BLOG: Yr hawl i fyw yn ein bro

Does dim cuddio rhag y ffaith fod hon yn gyfnod anodd i nifer o bobl, yn enwedig y lleiaf breintiedig yn ein plith. Mae costau byw ar gynnydd yn sylweddol, efo pris tanwydd i’r cartref wedi dyblu, a phrisiau bwyd yn ein siopau yn cynyddu.

Mae cymunedau gwledig yn ei chael yn anos gan ein bod mor ddiarffordd. Mae tanwydd i’r car ar ei lefel uchaf erioed, ac mae bwyd yn y siopau pentref, sydd heb y gallu i gystadlu trwy brynu niferoedd mawr o gynnyrch i mewn, wedi saethu i fyny. Bythefnos yn ôl roedd torth o fara yn fy siop leol yn £2.10. Erbyn y penwythnos diwethaf roedd yn £2.20 – a hynny am dorth o fara!

Ar yr un pryd nid yw ein cyflogau wedi cadw i fyny efo chwyddiant. Yn wir mae ein cyflogau ar gyfartaledd yn is mewn termau go iawn heddiw i beth ydoedd nol yn 1997.

Does dim syndod ein bod yn gweld y defnydd o fanciau bwyd yn cynyddu yn sylweddol. Er bod y rhan fwyaf o’r pwerau ar gyfer mynd i’r afael a’r argyfwng yma yn nwylo Llywodraeth San Steffan, gall ein Llywodraeth ni yma yng Nghymru wneud mwy. Gallant fyny, er enghraifft, fod trethdalwyr treth cyngor yn cael ad-daliad ar gyfran o’u taliadau. Gallant hefyd gynyddu a hyrwyddo'r taliadau tai dewisol – swm o bres y mae’r Awdurdod Lleol yn ei roi i bobl y maent yn ystyried sydd angen cymorth ychwanegol.

Bellach nid yw budd-daliadau ar gyfer y mwyaf bregus ac anghenus yn ddigon i dalu rhent tai i nifer. Mae yna beryg go iawn y gwelwn ni fwy yn mynd yn ddigartref yn sgil yr argyfwng hwn.

Yr wythnos diwethaf cynigiais y dylai’r Llywodraeth reoli rhent – hynny ydy, peidio â gadael i’r farchnad rydd benderfynu ar rent, ond yn hytrach i’r Llywodraeth ymyrryd yn uniongyrchol er mwyn atal landlordiaid barus rhag godro eu tenantiaid. Dywed rhai bod hyn yn anghywir ac y dylid gadael i’r farchnad rydd dra-arglwyddiaethu. Serch hynny, er mwyn i’r farchnad rydd weithio yna mae’n rhaid wrth gystadleuaeth. Nid oes yna gystadleuaeth yn y farchnad dai, efo stoc dai annigonol yn golygu na all rhai risgio symud tŷ, a chyfoeth aruthrol eraill yn gwthio gwerth prynu a rhenti i fyny y tu hwnt i allu pobl gyffredin. Rhaid cael camau i lefelu’r tir felly a sicrhau y gall ein pobl fyw efo urddas yn eu cymunedau.

Dengys yr ystadegau diweddaraf i ni fod hyd at 35% o incwm rhai pobl yn cael ei wario ar rent yn y sector breifat ac mae dros hanner plant teuluoedd sydd yn rhentu'r byw mewn tlodi.

Sydd yn dod a fi at dai. Dyma pam fy mod i, y Blaid, ac eraill wedi bod yn galw am ddeddfwriaeth i reoli’r farchnad dai. Dyna pam ein bod ni wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn ail dai a gormodedd o letyau gwely tymor byr. Yr un ydy’r egwyddor. Grym cyfalaf a thrachwant sy’n gyrru’r farchnad dai, ac yn gwthio pobl allan o’n cymunedau, gan arwain at ddiboblogi a thranc ein cymunedau Cymraeg, a phobl yn cael eu gwthio i mewn i anobaith a thlodi.

Dyna pam y byddaf i'n ymuno a channoedd o bobl eraill yn Aberystwyth dros y penwythnos fel rhan o rali Cymdeithas yr iaith Gymraeg a Hawl I Fyw Adra. Dyna pam fy mod wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd i gael Deddfwriaeth I ddatrys hyn. A dyna pam fy mod yn croesawu'r camau y mae’r Llywodraeth wedi eu cyflwyno o dan bwysau gennym ni ym Mhlaid Cymru, Hawl I Fyw Adra, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cymuned ac eraill ar hyd y degawdau i fynd i’r afael a’r argyfwng ail dai yng Ngwynedd. Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno cyfres o gamau fedrith ein helpu i fynd i’r afael a'r broblem. Fel rhan o’r camau yma maent yn ymgynghori ar y syniadau, megis sicrhau fod yn rhaid i brynwyr eiddo gael caniatâd cynllunio er mwyn trosi’r defnydd o fod yn dŷ llawn amser i fod yn dŷ gwyliau o ryw fath; neu gyflwyno system reoleiddio lymach ar gyfer pobl sydd am logi tai allan ar blatfform megis AirBnB; ynghyd a chamau eraill.

Mae’n holl bwysig fod pobl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, a byddwn yn eich annog i wneud heb oedi. Gallwch gymryd rhan trwy glicio yma.

 

 

 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Aaron Wynne
    published this page in Newyddion 2022-02-17 09:15:58 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.