Mae Cymru wedi cymhwyso i'r Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 sy'n dipyn o gamp i'n gwlad.
Mae Cymru’n chwarae nifer cynyddol o gemau pêl-droed rhyngwladol yng Nghaerdydd. Gemau grŵp Cwpan y Byd, gemau Grŵp Ewro, gemau grŵp cynghrair y Genedl a gemau cyfeillgar i restru dim ond rhai.
Rydym yn ffodus i fod yn dyst i oes aur ym mhêl-droed Cymru. Ond, os ydych yn dibynnu ar y trên i deithio o ogledd Cymru, byddwch yn ymwybodol o'r her i gyrraedd y Brifddinas.

Ers blynyddoedd bellach, pan fu digwyddiad mawr yng Nghaerdydd, nid yw Trafnidiaeth Cymru a’i ragflaenydd Trenau Arriva Cymru yn cynyddu eu capasiti er mwyn lleddfu'r galw.
Mae hyn yn golygu pan fydd y rhwydwaith rheilffyrdd ar ei brysuraf dim ond dau gerbyd sydd o Gaergybi'r holl ffordd i'n prifddinas.
Bydd unrhyw un sydd wedi cael eu gorfodi i deithio ar un o’r trenau gorlawn hyn yn gwybod y gall y sefyllfa hyn ddifethau'r achlysur arbennig.
Mae bron pob un o’r digwyddiadau hyn wedi’u hamserlennu a'u trefnu fisoedd ymlaen llaw. Felly os yw Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn gwneud eu gwaith yn gywir, dylent fedru ymateb ac ymdopi yn well.
Dyna pam rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu’r cymorth angenrheidiol i Drafnidiaeth Cymru i ddarparu capasiti diogel a phriodol ar drenau sy’n teithio ar adegau prysur fel gemau chwaraeon rhyngwladol yng Nghaerdydd.
Rydym yn mynnu mwy o gerbydau ar ein trenau pan fydd digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter