Mae AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi ymateb i benderfyniad gan y Factory Shop i wrthod caniatáu i aelodau staff yn eu siop ym Mhwllheli wisgo bathodynnau sy’n dangos eu bod yn siarad Cymraeg.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS,
‘Mae’n galonogol bod y Factory Shop yn cydnabod bod gan y rhan fwyaf o’u staff ddealltwriaeth sylfaenol o’r Gymraeg.’
‘Ond dylid rhoi gwell darpariaethau ar waith i alluogi cwsmeriaid a staff i gynnal busnes yn y Gymraeg, yn enwedig ym Mhwllheli. Un ffordd syml o wneud hyn yw defnyddio signalau gweladwy fel bathodynnau.’
‘Os yw cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg yn dymuno sgwrsio yn eu hiaith eu hunain, yna bydded felly - dyna eu hawl. Yn yr un modd, os yw aelodau staff eisiau hyrwyddo eu gallu i siarad Cymraeg dylai'r cwmni sicrhau bod adnoddau ar gael i hwyluso hyn.’
‘Mae’n rhesymol disgwyl i gwmnïau mawr a ddewisodd agor siop mewn ardal Gymraeg ei gwneud mor hawdd â phosibl i gwsmeriaid a staff ddefnyddio’r iaith ag y dymunant.’
‘Dylai busnesau fod yn annog ac yn cefnogi eu staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith ac ar yr un pryd hyrwyddo argaeledd aelodau staff sy’n siarad Cymraeg.’
‘Dyma hanfod gofal cwsmer da a byddwn yn annog y Factory Shop i fabwysiadu dull o’r fath os ydyn nhw o ddifrif ynglŷn â pharchu hawliau siaradwyr Cymraeg.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter