Y Llywodraeth yn methu a chefnogi gwelyau nyrsio cymunedol

Mae arweinwyr cymunedol wedi mynedgu eu siom y bydd gwelyau nyrsio yn y Pentref Pwylaidd, Penrhos, ger Llanbedrog yn cau yn gynt na'r disgwyl, gan gyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o fethu a rhoi'r gyllideb angenrheidiol i'w chynnal am gyfnod byr.

Disgynodd nifer y preswylwyr yn yr uned nyrsio yn sylweddol dros y misoedd diwethaf wedi i'r perchnogion benderfynu nad oedd ganddynt dewis ond cau yr uned yn 2021.  

Mae arweinwyr cymunedol ac ymgyrchwyr wedi bod yn lobio er mwyn cadw'r ddarpariaeth ar y safle tra fo partneriaid yn datblygu cynlluniau ar gyfer darpariaeth gofal newydd i'r safle.

Meddai'r ymgyrchydd iechyd Mabon ap Gwynfor,     

 

'Rydym wedi clywed fod ganddyn nhw gynlluniau cyffrous ar gyfer y Pentref Pwylaidd fel canolfan ragoriaeth, a sicrhau fod gan bobl Pen Llŷn yr adnoddau angenrheidiol i ateb y galw yma.'  

'Rwy'n edrych ymlaen i weld y cynlluniau yma yn cael eu datblygu a gweithio efo'r sefydliadau sydd ynghlwm yn y peth er mwyn sicrhau fod y cynlluniau yn gweld golau dydd.' 

'Serch hynny, mae'n siom o'r mwyaf nad oedd Llywodraeth Llafur Cymru wedi medru ariannu yr uned nyrsio am gyfnod wrth i'r cynlluniau yma gael eu datblygu.' 

'Mae'r methiant yma wedi arwain at orfodi nifer o bobl oedranus a bregus i symud i rywle dieithr. Mae o hefyd wedi cael effaith ar staff Penrhos ar gyfnod sy'n anodd iawn i bawb beth bynnag.'  

'Gofal i'r claf ydy'r egwyddor greiddiol y dylai fod wrth wraidd unrhyw ddatblygiad newydd, a'r angen i gleifion fod yn agos i'w cymunedau a theuluoedd.' 

Meddai Liz Saville Roberts AS,   

‘Does dim cuddio'r ffaith fod cau yr uned nyrsio yn andros o siom, yn dilyn ymgyrch hir ac emosiynol gan drigolion a oedd am sicrhau fod gwasanaethau nyrsio am barhau yma ym Mhen Llŷn.’    

‘Dylai Llywodraeth Cymru wedi trio yn galetach i weithio efo Cyngor Gwynedd, Clwyd Alyn a'r Bwrdd Iechyd er mwyn sicrhau fod yna bres yno er mwyn sicrhau fod gofal nyrsio yn parhau am gyfnod, ac mae'n fy nhristau i weld pobl yn gorfod gadael eu cartref yn erbyn eu hewyllys oherwydd hyn.’   

'Gobeithio y bydd cymorth ddigonol yn cael ei roi i gynortheyo y gweithlu sy'n wynebu colli swyddi, er mwyn gwneud yn siwr fod yna waith arall ar eu cyfer yn lleol. Rhaid gwneud pob ymdrech i helpu y staff ar yr adeg anodd yma.’ 

‘Tra fod colli'r gwelyau nyrsio yn ergyd drom, rwy'n croesau'r cydweithio rhwng Clwyd Alyn, Cyngor Gwynedd a'r Bwrdd Iechyd a fydd gobeithio yn arwain at ddatblygu cartrefi newydd, o ansawdd uchel ar y safle efo cynllun busnes i ddatblygu uned ofal a nyrsio newydd ynghyd ag ystod ehangach o wasanaethau.’    

'Byddaf yn dilyn y datblygiadau yn agos iawn dros y misoed nesaf er mwyn gwneud yn siwr fod anghenion y cleifio a'u teuluoedd yn ganolo i'r penderfyniadau.'   

Meddai'r Cyng. Angela Russell,  

‘Rwyf wedi siomi yn arw fod yr uned nyrsio am gau yn gynnar. Rydym yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus anferthol, a gellir ddim wedi amseru hyn yn waeth.'  

‘Mae'r gweithlu, y cleifion, a'r gymuned wedi cael eu gadael i lawr oherwydd methiant Llywodraeth Cymru i ariannu'r uned nyrsio.’  

‘Rwy'n falch, serch hynny, fod Clwyd Alyn wedi camu i'r adwy er mwyn achub y tai cysgodol a bod rhain am barhau i fod ar gael i'r gymuned leol.’  

‘Yr her rwan ydy sicrhau fod anghenion Pen Llŷn yn cael eu parchu, ac mi fyddaf yn gweithio hyd eithaf fy ngallu efo'r rhanddeiliad er mwyn sicrhau hyn.’ 


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.