Y Llywodraeth Doriaidd yn barod i aberthu ffermwyr defaid ar allor Brexit heb gytundeb

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r Llywodraeth Brydeinig yn hallt am gyfaddef fod y sector ffermio ddefaid am gael ei chwalu os na fydd yna gytundeb efo’r Undeb Ewropeaidd, ac hefyd yn disgwyl i ffermwyr defaid arall gyfeirio yn ddiffwdan i ffermio eidion.

Gwnaeth yr ysgrifennydd gwladol dros yr amgylchedd, bwyd a materion gwledig, George Eustice, y sylwadau ar raglen teledu Andrew Marr fore dydd Sul. Wrth gael ei herio gyda’r ffaith fod 90% o holl allforion defaid y DG yn mynd I’r UE ac y byddai Brexit heb gytundeb yn dinistrio ffermio defaid, meddai Mr Eustice,

“Byddai pris ŵyn yn codi yn yr UE, byddai hyn hefyd yn golygu fod y galw yn yr UE am fynd i lawr a byddai y pris yn disgyn yma yn y DG yn y tymor byr. Ond hefyd, os nad ydym yn mewnforio gymaint o gig eidion o’r Iwerddon yna gall y mentrau cig eidion a defaid cymysg hynny arall gyfeirio i gig eidion”.

Meddai Mabon ap Gwynfor, ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd sydd hefyd yn byw ar fferm ddefaid,

“Mae hyn yn gyfaddefaid cwbl agored nad ydy ein cymunedau amaethyddol ni yma yng Ngwynedd neu yng Nghymru o ddim gwerth i’r Llywodraeth Geidwadol.

“Mae’n nhw’n derbyn y bydd y diwydiant cig defaid yn cael ei ddinistrio, efo’r galw yn lleihau a’r prisiau yn disgyn. Beth sydd waethaf ydy eu bont yn disgwyl i ffermwyr defaid arall gyfeirio i gig eidion, sydd yn dangos pa mor allan o gyswllt maen nhw efo’r cymunedau amaethyddol yma.

“Mae ein tir uchel ni yma yn addas ar gyfer ffermio defaid. Dyna pam fod diadelloedd defaid yma gymaint yn fwy na’r gyrroedd gwartheg. Mae anghenion ffermio defaid yn wahanol i’r rhai ar gyfer magu gwartheg eidion. 

“Gall ffermwr defaid ddim troi cae newydd yn hawdd iawn er mwyn cael y cnwd angenrheidiol i fwydo gwartheg, ac nid yw’r tiroedd uchel yma yn tyfu’r math yna o borthiant prun bynnag. Nid oes ganddynt yr offer na’r adeiladwaith ar gyfer y math yna o amaethu. Byddai hefyd angen siediau newydd i aeafu y gwartheg hefyd. Ble mae disgwyl iddynt gael y cyfalaf ar gyfer hyn?

“Mae sylw mor ffwrdd â hi a hyn yn dangos nad oes gan y Llywodraeth Geidwadol yma y syniad cyntaf am ffermio yng Nghymru ac eu bod nhw’n poeni hyd yn oed llai am y diwydiant.

“Mae ein heconomi a’n ffordd o fyw, yn enwedig yma ym Meirionnydd, wedi esblygu o amgylch cenedlaethau o ffermwyr mynydd a defaid, ac mae hyn oll bellach o dan fygythiad oherwydd anallu y llywodraeth yma.

“Efallai fod ffermio defaid yn ddi-bwys i bwysigon breintiedig Llundain a’u cyfeillion cyfoethog, ond mae’n rhan ganolog o fywyd yma yng ngogledd orllewin Cymru ac mae angen ei amddiffyn”.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.