Taliad Tanwydd Gaeaf
Cadarnhaf i mi bleidleisio yn erbyn y toriad i Daliadau Tanwydd Gaeaf ac anogais ASau Llafur i wneud hynny. Yn anffodus dim ond un wnaeth.
Bydd y newid hwn yn arwain at filoedd o bobl yn mynd yn oer y gaeaf hwn. Bydd 19,910 o bensiynwyr yn Nwyfor Meirionnydd yn cael eu heffeithio.
Amcangyfrifwyd bod tua 80,000 o aelwydydd yng Nghymru yn colli allan ar Gredyd Pensiwn er eu bod yn gymwys, sy’n golygu eu bod eisoes yn colli allan ar dros £200 miliwn y mae ganddynt hawl iddo.
Os ychwanegwn at yr hafaliad sydd gennym yng Nghymru, yn aml, stoc tai hŷn o ansawdd is a llawer o bobl yn byw oddi ar y grid, bydd newid y Canghellor yn cael effeithiau trychinebus ar bensiynwyr Cymru.
Bydd ein tîm o ASau Plaid Cymru yn parhau i frwydro yn erbyn yr hyn sy’n ddewis gwleidyddol gan y Canghellor a allai beryglu iechyd degau o filoedd o bensiynwyr Cymreig.
Liz Saville Roberts AS
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter