Annog datblygwyr gemau i ddefnyddio'r Gymraeg

Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor wedi galw ar lywodraeth Cymru i roi pwysau ar ddatblygwyr gemau fideo fel EA Sports a FIFA i ystyried cyhoeddi eu gemau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Aelod Senedd Plaid Cymru os oedd llywodraeth Cymru o ddifrif am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yna fe ddylai ddechrau trafodaethau gyda chwmnïau gemau sydd â dylanwad uniongyrchol ar bobl ifanc.

Roedd Mr ap Gwynfor yn ymateb i alwadau gan ddysgwyr Cymraeg ifanc yn ei etholaeth a ddywedodd y byddai gallu chwarae gemau fel Roblox, Fortnite, a Minecraft trwy gyfrwng y Gymraeg yn eu hannog i ddatblygu eu defnydd o'r iaith.

Wrth godi’r mater yn y Senedd, dywedodd Mr ap Gwynfor ei fod wedi cael ei lobïo gan ddisgyblion o Ysgol Glan y Môr, Pwllheli ac o ysgolion eraill Pen Llŷn oedd eisiau’r opsiwn o chwarae’r gemau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mewn ymateb i lythyr a anfonwyd gan Mr ap Gwynfor at EA Sports, dywedodd y cwmni gemau er eu bod yn cyhoeddi gemau mewn 85 o wledydd ac mewn 19 iaith, nid oedd ganddynt unrhyw fwriad i sicrhau bod eu gemau ar gael yn y Gymraeg.

Mae Google, Microsoft, a Meta eisoes wedi mabwysiadu’r defnydd o’r Gymraeg ar eu platfformau ar-lein.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:

Ro'n i'n ymweld ag Ysgol Glan y Môr yn ddiweddar, ac fe wnes i siarad gydag un siaradwr Cymraeg newydd - disgybl yna - a ddywedodd mai'r hyn a fyddai yn ei annog fo i siarad Cymraeg buasai cael chwarae EA Sports FIFA trwy gyfrwng y Gymraeg. Fe wnes i gysylltu efo EA Sports, a dyma nhw'n ateb yn dweud: 'Unfortunately, it will not be possible for us to include the Welsh language in EA Sports FC 24. Although we publish the game in 85 countries, EA Sports FC 24 is translated into 19 languages.’ Gan ychwanegu y byddai’n cymryd dwy flynedd iddyn nhw baratoi rhaglen cyfrwng Cymraeg. Roedd yna griw o blant o ysgolion ym mhen draw Llŷn yma ddydd Mawrth, a dyma nhw’n dweud y bydden nhw’n awyddus i weld Roblox, Fortnite a Minecraft drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae yna ddigon o bethau, drwy’r cyfryngau newydd yma, y gallwn ni hyrwyddo. A wnewch chi ymuno gyda fi i roi pwysau ar y cyrff yma - FIFA, EA Sports, Fortnite a Roblox—a trio cael o leiaf un ohonyn nhw i ddarparu eu gêm drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer plant sydd eisiau gwneud hynny?


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2025-01-29 16:54:55 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.