Gofalwyr Di-Dâl
Er mwyn adlewyrchu diolchgarwch eang y cyhoedd am ymdrechion gofalwyr di-dâl, yn enwedig yn ystod y pandemig COVID-19, mae angen gweithredu ar frys gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i atal gofalwyr sy’n ei chael hi’n anodd cyrraedd pen tennyn.
Cred Plaid Cymru y dylai Llywodraeth Cymru fynnu’r pwerau datganoledig i ddisodli’r Lwfans Gofalwr ag Incwm Cynhalwyr Cyffredinol nad yw’n seiliedig ar brawf modd a fyddai o leiaf ar yr un lefel â’r Lwfans Ceisio Gwaith – i bob gofalwr sy’n darparu mwy na 35 awr o ofal.
Medraf eich sicrhau y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu yn y Senedd ac yn San Steffan i dynnu sylw at waith gofalwyr ac ymladd i sicrhau eu bod yn cael y cymorth y maent ei angen ac yn ei haeddu.
Mabon ap Gwynfor AS a Liz Saville Roberts AS
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter