Credyd Cynhwysol
Mae bron i ddegawd a hanner o lymder wedi cael effaith ddifrifol ar ein cymunedau tlotaf.
Dyna pam mae Plaid Cymru yn pwyso am reolaeth lwyr ar Gredyd Cynhwysol gan fod penderfyniad San Steffan i wrthod darparu system les dda yn golygu bod datganoli’r mater hwn yn fwy o frys nag erioed.
Llywodraethau’r DU sy’n bennaf gyfrifol am y pwerau i liniaru tlodi, ac mae Plaid Cymru wedi galw am gynyddu taliadau Credyd Cynhwysol, yn ogystal â galw am ddiwygio’r Lwfans Tai Lleol ac am ddiddymu’r cap dau blentyn ar bob taliad plentyn o dan Gredyd Treth Plant.
Gallaf eich sicrhau y bydd ASau Plaid Cymru yn San Steffan yn parhau yn ein hymrwymiad i ddileu tlodi.
Liz Saville Roberts AS
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter