Flwyddyn ar ôl toriadau cynhennus i amserlen bysiau Traws Cymru, mae’r Aelod Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor yn dweud fod pryderon pobl sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad wedi’u diystyru yn llwyr.
Gan fynnu bod yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth yn gwneud datganiad ar yr effaith y mae torri gwasanaethau wedi’i gael ar ei etholwyr, dywedodd Mr ap Gwynfor mai pobl fregus a’r rhai mewn addysg sy’n ysgwyddo baich mwyaf y toriadau.
Mae Mr ap Gwynfor wedi codi pryderon dro ar ôl tro am yr effaith y mae toriadau i wasanaethau bysiau yn ei gael ar gymunedau yn ei etholaeth fel Garndolbenmaen, Llanuwchllyn, Llandderfel ac eraill.
Wrth godi’r mater yn y Senedd, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:
Mae bron yn flwyddyn ers i ni weld newidiadau yn amserlenni bysiau llwybrau Traws Cymru, a hyn yn dilyn toriadau gan eich Llywodraeth chi. Os ydy fy mewnflwch i yn unrhyw beth fel ffon fesur ar hyn, yna mae'n amlwg bod y newidiadau wedi bod yn fethiant trychinebus, efo pobl fregus yn methu cyrraedd gwasanaethau, a phlant a phobl ifanc yn methu cyrraedd clybiau chwaraeon, ac yn y blaen. Felly, gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth yn dangos asesiad o effaith y toriadau yma dros y flwyddyn ddiwethaf ers eu cyflwyno nhw?
Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor AS:
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau bws yn ein cymunedau gwledig. I'r henoed a'r bregus, maen nhw'n achubiaeth hanfodol ar gyfer apwyntiadau meddygol a siopa - tra bod llawer o drigolion eraill yn dibynnu arnyn nhw i deithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith ac i fynychu'r ysgol a'r coleg. Mae prinder bysiau mewn ardaloedd gwledig yn gadael mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn ynysig – gyda’r rhai na allant fynd yn annibynnol i’r gwaith, y siopau neu i weld y meddyg yn gorfod troi at ffrindiau, tacsis, a chludiant cymunedol i’w cludo o un lle i’r llall. Rhybuddiais y llywodraeth dro ar ôl tro am effaith debygol y toriadau hyn. Rydym wedi gweld llefydd fel Llanuwchllyn a Llandderfel yn colli allan ar gysylltiad hollbwysig i’r bobl yn y cymunedau hynny heb sôn am yr effaith ar bobl yng Ngarndolbenmaen yn sgil cael gwared ar y gwasanaeth T2 gwerthfawr. Cyflwynwyd y toriadau hyn heb unrhyw ymgynghori ystyrlon ymlaen llaw gyda chymunedau a defnyddwyr bysiau lleol. Mae’r sefyllfa anghynaliadwy hon yn cael effaith drychinebus ar ein cymunedau gwledig, ynghyd â thanseilio ymrwymiadau trafnidiaeth gyhoeddus ehangach.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter