Gweinidog Llafur yn blaenoriaethu buddiannau perchennog tai haf ar draul bywoliaeth pysgotwyr Llŷn
Mae Gweinidog Pysgodfeydd Llywodraeth Lafur Cymru Lesley Griffith wedi ei chyhuddo o dorri’r Côd Ymddygiad Gweinidogol wrth gadw ochr perchennog tai gwyliau o’i hetholaeth yn Wrecsam mewn dadl dros hawl pysgotwyr lleol I gael mynediad i’r mor ym Mhen Llŷn.
Roedd Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - sydd â chyfrifoldeb am bysgota yng Nghymru - wedi ysgrifennu at Gyngor Gwynedd i brotestio am arwyddion roedd pysgotwyr lleol wedi’u codi er mwyn rheoli parcio ger lawnsfa Porth Colmon, Llŷn.
Mewn llythyrau gweinidogol i’r Cyngor, roedd Ms Griffiths wedi dweud ei bod yn ysgrifennu ar ran ei hetholwr, Stephen Mackreth, a bod yr arwyddion wedi’u codi heb ganiatâd ar dir roedd o’n honni fel ei eiddo.
Yn ôl Siôn Williams, Cymdeithas Pysgotwyr Llŷn, mae perchennog tai gwyliau ger Porth Colmon, Stephen Mackreth, wedi honni mai fo biau’r lawnsfa a gerllaw ond i’r ymdrechion hynny fethu yn y gorffennol. Mae Mr Mackreth yn byw yn Wrecsam, ac mae ganddo gartrefi gwyliau yn ardal Porth Colmon a Llangwnadl. Dywedodd Mr Williams fod y pysgotwyr wedi trafod a chytuno union leoliad yr arwyddion gyda Chyngor Gwynedd. Bwriad yr arwyddion oedd diogelu mynediad di-rwystr i’r môr ac yn ôl i’r lan.
Cafodd llythyrau Ms Griffiths i Gyngor Gwynedd eu hysgrifennu ar bapur pennawd gweinidogol, ac roedd hi wedi’u harwyddo gyda’i theitl fel Gweinidog. Mae’n ymddangos bod hyn yn torri Côd Gweinidogion Llywodraeth Cymru, sy’n datgan y dylid gofalu i osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau posib rhwng dyletswyddau etholaethol a gweinidogol.
Mae’r côd hefyd yn gofyn i weinidogion gadw at feysydd eu portffolio; nid yw materion cynllunio na mynediad yn perthyn i bortffolio Gweinidog Griffiths.
Mae Cymdeithas Pysgotwyr Llŷn a’r AS lleol, Liz Saville Roberts, wedi ysgrifennu at Ms Griffiths yn gofyn am gyfarfod i drafod pwysigrwydd mynediad i’r môr ym Mhorth Colmon i’r diwydiant pysgota lleol, ond gwrthododd y cais.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS: ‘Mae’n anghredadwy bod gweinidog Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bysgota yn anwybyddu’r gwrthdaro buddiannau amlwg wrth gefnogi etholwr dros bysgotwyr lleol yn Llŷn, a hynny’n rhinwedd ei swydd lywodraethol fel Gweinidog Pysgodfeydd.’
‘Mae’r diwydiant pysgota o dan bwysau aruthrol yn sgil ansicrwydd Brexit. Rhaid cwestiynu doethineb barn Ms Griffiths. Pwy sy’n flaenoriaeth ganddi? Etholwr o Wrecsam sy’n digwydd bod yn berchen ar dai gwyliau yn Llŷn neu bysgotwyr sy’n cwffio dros ddiogelu mynediad i’r môr?’
‘Mae’r mater a godir gan Weinidog Griffiths yn ymwneud â chynllunio a mynediad, materion sydd tu hwnt i’w phortffolio gweinidogol hyd yn oed.’
‘Byddaf yn ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, gan ofyn iddo ddod i farn a ydi ymddygiad Gweinidog Griffiths yn torri côd ymddygiad gweinidogol ei lywodraeth ar ddau bwynt.'
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter