Teyrnged i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Teyrnged gan Liz Saville Roberts AS, Mabon ap Gwynfor AS a Pwyllgor Etholaeth Dwyfor Meirionnydd i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:

Mae’r newyddion am farwolaeth Dafydd Elis-Tomos wedi dod fel ergyd anferthol. Fe wnaeth gyfraniad amhrisiadwy i wleidyddiaeth Cymru. Yn yr 1970au ac 1980au llwyddodd i ymestyn apel Plaid Cymru i genhedlaeth newydd. Ac yna erbyn yr 1990au a dechrau’r ganrif hon roedd yn allweddol wrth osod y seiliau ar gyfer ein Senedd, a sicrhau fod gan Cymru ein deddfwrfa ein hun am y tro cyntaf mewn 600 mlynedd. Roedd yn wleidydd craff, oedd yn adnabod llwybrau cudd gwleidyddol y Deyrnas Gyfunol a Chymru er mwyn dylanwadu a chyflawni ei amcanion gan sicrhau enillion gwerthfawr i Gymru. Fel ei olynydd fel Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd mae fy niolch personol yn enfawr iddo. Roedd wrth law yn cynghori a phob gair o gyngor yn werthfawr a doeth, ac fe ddangosodd gefogaeth lwyr i fi o’r eiliad y cefais fy ethol. Cydymdeimladau dwysaf i’w annwyliaid yn eu galar. Mae Cymru wedi colli cawr.

 

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

Fel Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i Mair a holl deulu Dafydd Elis-Thomas yn dilyn y newyddion trist iawn yma. Roedd Dafydd Êl yn yn ffigwr aruthrol ym mywyd cyhoeddus Cymru, ac yn ysbrydoliaeth i genedlaethau ledled Cymru. Rwyf wedi siarad â chymaint o bobl yn yr etholaeth, ac yn enwedig ym Meirionnydd, sy’n dweud wrthyf sut roedd gwleidyddiaeth Dafydd wedi eu hysbrydoli’n angerddol fel pobl ifanc. Fel Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru dros Meirionnydd, a wedyn fel Aelod o'r Senedd, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, a gweinidog yn Llywodraeth Cymru, chwaraeodd ran ganolog wrth lunio tirwedd wleidyddol ein cenedl. Mae ei waith diflino a’i ymrwymiad i Gymru, ei phobl, a’i democratiaeth wedi gadael ôl anferth ar ein hanes. Bu Dafydd Êl hefyd yn gwbwl allweddol wrth gryfhau ein democratiaeth ifanc fel Llywydd y Senedd. Roedd ei gyfraniadau, yn aml tu ôl i'r llenni, i ddatblygiad y Senedd yn hollbwysig er mwyn creu y ddemocratiaeth gryfach sydd ganddon ni heddiw. Enillodd ei allu i adeiladu pontydd ar draws rhaniadau gwleidyddol a’i angerdd dwfn dros ddiwylliant a hunaniaeth Gymreig barch cydweithwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Roedd Dafydd Êl yn wleidydd lliwgar a byth yn ddiflas. Bydd colled enfawr ar ei ôl, nid yn unig gan ei deulu a’i ffrindiau ond gan bawb sy’n credu yn y weledigaeth o Gymru gryfach, fwy hyderus. Cofiwn ei gyfraniad a’r etifeddiaeth y mae’n ei gadael ar ei hôl.

Dywedodd Pwyllgor Etholaeth Dwyfor Meirionnydd: 

Trist iawn yw clywed am farwolaeth yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, cyn Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, ac Aelod Seneddol cyntaf y Blaid ym Meirionnydd. Bu Dafydd yn ran annatod o fywyd gwleidyddol a sifil ein cenedl ers dechrau’r 70au, gan osod sylfaen ein Senedd cenedlaethol. Roedd yn wleidydd craff, dyfeisgar ac yn barod i dorri tir newydd. Bu’n eiriolwr pwerus ac effeithiol dros yr iaith Gymraeg, diwylliant ein gwlad ac thros gymunedau cefn gwlad Cymru. Does dim os fod ei ddylanwad a’i weithgarwch dros y blynyddoedd wedi arwain at gefnogaeth gadarn i’r Blaid ar daws yr etholaeth, yn enwedig ym Meirionnydd lle bu’n ffigwr holl-bresenol am gymaint o flynyddoedd. Dymunwn fel Pwyllgor Etholaeth ddiolch iddo am ei gyfraniad amhrisiadwy i’r ardal, ein cenedl ac i’r Blaid. Cydymdeimlwn â’i deulu ar eu colled anferthol.          


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2025-02-07 11:42:25 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.