Canolfan ddeiagnosis Canser i Wynedd
Llythyr agored i Lywodraeth Cymru - pobl Gwynedd yn galw am ganolfan ddeiagnosis canser
Mae canser yn lladd mwy o bobl yng Ngwynedd nag unrhywbeth arall, gyda 28% o farwolaethau yng Ngwynedd o ganlyniad i ganser yn 2018. Yn wir, mewn rhai ardaloedd, megis Dolgellau, roedd y ffigwr yn 41%.
Mae diagnosis cynnar yn greiddiol er mwyn ceisio sicrhau gwellad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynlluniau peilot yn nau o fyrddau iechyd de Cymru a brofodd yn llwyddiannus, gyda ymchwil yn dangos fod y canolfan ddeiagnosis wedi lleihau'r amser tan ddeiagnosis o 84 diwrnod i 6 niwrnod.
Rydym yn galw ar i Lywodraeth Cymru ddatblygu canolfan ddeiagnosis yma er mwyn sicrhau fod pobl Gwynedd yn cael deiagnosis sydyn ac yn cael yr un driniaeth ag ardaloedd eraill.
GALW AM HWB CANSER I WYNEDD I GYFLYMU DIAGNOSIS
Becky Williams yn cefnogi galwadau i sefydlu canolfan rhanbarthol canser
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau diagnosteg canser yng ngogledd Cymru trwy sefydlu canolfan ranbarthol yng Ngwynedd, yn sgil ffigyrau diweddar yn amlygu cyfraddau marwolaeth ledled y DU.
Cefnogwyd eu galwadau gan Becky Williams, gweddw Irfon Williams a fu’n arwain ymgyrch Hawl i Fyw.
Dengys ffigurau marwolaethau sydd newydd eu rhyddhau mai canser yw prif achos marwolaeth yng ngogledd Cymru, gyda 2,291 o'r 8,156 o farwolaethau a gofnodwyd o ganlyniad i ganser.
Darllenwch fwy