Diogelu yr A494
Mynnwn fod y Llywodraeth yn gwella diogelwch yr A494 o Ddolgellau i'r Ddwyryd.
Yn 2021 addawodd y Llywodraeth eu bod nhw am wneud gwaith i ddiogelu yr A494, ond maent bellach wedi goheirio unrhyw waith am oleiaf dwy flynedd. Yn y cyfamser mae nifer o ddamweiniau angeuol a difrifol yn digwydd ar y ffordd, a phobl sy'n byw yn y cymunedau cyfagos yn pryderu am eu diogelwch.
Rhaid i'r asesiadau diogelwch cael eu cynnal.
Mynnwn gael gwlau nyrsio ym Mhen Llŷn
Rydym yn galw ar i'r Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru i sicrhau fod yna wlau nyrsio yn parhau ym Mhen Llŷn
Mae yna bryderon ynghylch dyfodol gwlau nyrsio Penrhos, yn dilyn y newyddion fod y Polish Housing Society yn cau Penrhos.
Mae yna obeithion y bydd sefydliad arall yn cymryd y safle ymlaen, ond mae yna amheuaeth ynghylch y gwelyau nyrsio.
Mae Penrhos wedi chwarae rhan bwysig yn hanes diweddar Pen Llŷn, ac mae'n gartref nyrsio ar gyfer trigolion yr ardal.
Nid oes yna gartref nyrsio arall ym Mhen Llŷn, a byddai rhaid i bobl deithio i Gricieth, Porthmadog, neu ymhellach er mwyn cael lle mewn cartref nyrsio arall.
Mae yna alw ac angen am welyau nyrsio ym Mhen Llŷn.
Rol y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru ydy sicrhau fod yna ddarpariaeth ar gyfer ein anghenion. Wrth i'r boblogaeth heneiddio, a thrafferthion iechyd fynd yn fwy dyrys, mae'r galw am welyau nyrsio felly yn cynyddu.
Galwn ar i Lywodraeth Cymru a'r Bwrdd Iechyd gydweithio er mwyn sicrhau fod gofal gwelyau nyrsio yn parhau i fod yma ym Mhen Llŷn.
Clefyd y galon
Ers 2015 mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnal gwasanaeth cymunedol rhagorol ar gyfer cleifion methiant y galon.
Mae'n wasanaeth sy'n arbed bywydau; yn arbed pobl rhag mynychu ysbytai cyffredinol; ac yn arbed arian sylweddol i'r Bwrdd Iechyd.
Mae tua 8,000 o gleifion methiant y galon yn wybyddus ar hyd gogledd Cymru, ac amcangyfrifir fod tua'r un faint eto nad ydynt yn wybyddus i'r meddygon.
Mae'r clinigau cymunedol yma yn trin dwsinau o gleifion y galon bob mis, a hynny mewn canolfannau yn agosach i'w cartref. Mae'r gwasanaeth bresennol yn arbed tua £1.5m y flwyddyn i'r Bwrdd Iechyd. O'i ledu ymhellach i bob rhan o'r gogledd mae posib y gallai arbed hyd at £5m iddynt.
Yn anffodus mae'r Bwrdd wedi methu ag ymrwymo i gynnal y gwasanaeth am yr hir dymor, gan ei adolygu bob chwe mis. Golyga hyn nad oes yna sicrwydd swydd i'r rhai hynny sy'n gweithio, sydd yn ei dro yn golygu fod y staff yn symud ymlaen i wasanaethau eraill ac felly yn bygwth y gwasanaeth arbennig yma.
Mae'r gwasanaeth angen sicrwydd. Rydym felly yn galw ar i'w Gweinidog Iechyd a'r Bwrdd Iechyd i sicrhau fod y gwasanaeth rhagorol yma'n cael sicrwydd hir dymor er lless y nifer fawr o gleifio y galon sydd yng ngogledd Cymru.
YMATEB I ANGHYDFOD IAITH FACTORY SHOP PWLLHELI
Mae AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi ymateb i benderfyniad gan y Factory Shop i wrthod caniatáu i aelodau staff yn eu siop ym Mhwllheli wisgo bathodynnau sy’n dangos eu bod yn siarad Cymraeg.
Darllenwch fwyCanolfan ddeiagnosis Canser i Wynedd
Llythyr agored i Lywodraeth Cymru - pobl Gwynedd yn galw am ganolfan ddeiagnosis canser
Mae canser yn lladd mwy o bobl yng Ngwynedd nag unrhywbeth arall, gyda 28% o farwolaethau yng Ngwynedd o ganlyniad i ganser yn 2018. Yn wir, mewn rhai ardaloedd, megis Dolgellau, roedd y ffigwr yn 41%.
Mae diagnosis cynnar yn greiddiol er mwyn ceisio sicrhau gwellad.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynlluniau peilot yn nau o fyrddau iechyd de Cymru a brofodd yn llwyddiannus, gyda ymchwil yn dangos fod y canolfan ddeiagnosis wedi lleihau'r amser tan ddeiagnosis o 84 diwrnod i 6 niwrnod.
Rydym yn galw ar i Lywodraeth Cymru ddatblygu canolfan ddeiagnosis yma er mwyn sicrhau fod pobl Gwynedd yn cael deiagnosis sydyn ac yn cael yr un driniaeth ag ardaloedd eraill.
Holiadur Cymraeg
Gyda Brexit ar y gorwel a'r holl newid a ddaw yn sgil hwnnw, rydym yn awyddus i glywed barn pobl yr ardal am faterion gwleidyddol y dydd.
Cymerwch yr arolwg