Datganiad gan Liz Saville Roberts AS, Mabon ap Gwynfor AS, a'r Cynghorydd Delyth Lloyd-Griffiths ar benderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i symud ymlaen i gau Canolfan Ymwelwyr a Chaffi canolfan feicio Coed y Brenin.
Dywedodd y Cynghorydd Delyth Lloyd-Griffiths:
Mae hyn yn newyddion ofnadwy i Goed y Brenin, y staff, a phawb sy’n rhan o’r ymgyrch i atal cau’r ased lleol gwerthfawr hwn. Mae hefyd yn ergyd i’r economi leol a'r economi ymwelwyr ym Meirionnydd, y mae Coed y Brenin yn cyfrannu’n sylweddol tuag ato. Rwy’n siomedig iawn bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod mor gyndyn i weithio gyda grwpiau lleol i chwilio am ateb pragmatig, i gadw’r ganolfan ar agor a chaniatáu i’r gymuned gyflwyno cynllun busnes hyfyw i gymryd drosodd y gwaith o redeg y ganolfan safle. Bydd y bobl yr wyf yn eu cynrychioli wedi’u syfrdanu gan y newyddion hwn, yn ogystal â’r rhai sy’n dod o bell ac agos i fwynhau’r cyfleoedd hamdden a chymdeithasol sydd gan y ganolfan o safon fyd-eang hon i’w chynnig. Rwy’n dal yn ddiysgog yn fy marn fod dyfodol Coed y Brenin yn nwylo’r gymuned leol a byddaf yn parhau i weithio gyda’r grŵp lleol Caru Coed y Brenin i yrru hyn yn ei flaen.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS a Liz Saville Roberts AS:
Daw’r newyddion hyn yn ergyd drom, yn bennaf oll i staff gwasanaeth manwerthu ac arlwyo Coed y Brenin sydd wedi gweithio’n ddiwyd dan gwmwl o ansicrwydd ers misoedd, ond hefyd i’r gymuned ehangach sydd wedi brwydro’n galed i wrthsefyll y cau hwn. Rydym wedi dadlau o’r cychwyn mai yn nwylo’r gymuned leol y gwasanaethir dyfodol hirdymor Coed y Brenin orau, ond yn anffodus rydym wedi canfod ein hunain mewn sefyllfa lle mae anghenion y gymuned leol yn cael eu diystyru, er gwaethaf cefnogaeth aruthrol. Rydym wedi annog Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) dro ar ôl tro i ymgysylltu’n adeiladol â’r grŵp lleol Caru Coed y Brenin sydd mewn sefyllfa dda i gymryd drosodd y gwaith o redeg y safle. Mae pobl Coed y Brenin a’r cyffiniau wedi gwneud Coed y Brenin yr hyn ydyw, a dylai CNC a Llywodraeth Cymru ill dau gadw hyn mewn cof wrth dendro am berchnogaeth yn y dyfodol. Mae’n anffodus iawn na roddwyd digon o amser i ganiatáu i grwpiau lleol gyflwyno cynlluniau busnes yn ffurfiol, er i CNC ein sicrhau ym mis Chwefror na fyddai dim yn digwydd am ddwy neu dair blynedd. Mae cau’r adnodd gwych hwn yn cael ei ruthro drwodd heb ymgynghori a chraffu ystyrlon, a heb fawr o sylw i’r effaith ar yr economi leol ac ymwelwyr. Mae Coed y Brenin yn frand gwych sy’n gofyn am fuddsoddiad a datblygiad gwirioneddol, wedi’i ysgogi gan y rhai sydd â’r arbenigedd a’r wybodaeth i harneisio potensial y safle. Dylai CNC fod yn gweithio’n agored ac yn greadigol gyda chymunedau lleol i sicrhau bod adnoddau gwerthfawr megis Coed y Brenin yn parhau i wasanaethu pobl leol ac economi ymwelwyr Meirionnydd fel ei gilydd.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter