Galw ar Scottish Power i ddiweddaru cofrestr pobl fregus

Mae ASau Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor a Liz Saville Roberts yn dweud bod yn rhaid i Scottish Power ymrwymo ar frys i ddiweddaru eu Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod adnoddau’n cael eu cyfeirio’n gywir at y rhai sydd angen cymorth ar adegau o argyfwng.

Gan godi effaith Storm Darragh ar gymunedau yn Nwyfor Meirionnydd, dywedodd Mr ap Gwynfor fod anghysondebau ac anghywirdebau yn y wybodaeth a ddarparwyd i awdurdodau lleol i'w galluogi i ddiwallu anghenion pobl fregus.
...
Mae galwadau Mr ap Gwynfor wedi cael eu hadleisio gan AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts sydd wedi lleisio pryderon nad yw pobl a ryddhawyd yn ddiweddar o’r ysbyty wedi’u cynnwys ar y rhestr flaenoriaeth, heb unrhyw gyswllt uniongyrchol rhwng BIPBC a Scottish Power.
...
Cafodd Mr ap Gwynfor a Mrs Saville Roberts wybod bod y rhestr a ddarparwyd gan Scottish Power i awdurdodau lleol yn cynnwys enwau pobol sydd wedi marw ers tro.
...
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:
...
Yn Nwyfor Meirionnydd, Scottish Power sydd yn gyfrifol am yr isadeiledd trydan. Maen nhw, fel eraill, yn rhanddeiliaid yn y rhestr PSR, y priority service list. Mae’r rhestr yma yn hanfodol er mwyn gwybod pwy ydy’r bobl fregus sydd angen eu blaenoriaethu, ond mae profion storm Darragh yn dangos nad ydy’r rhestr PSR wedi cael ei diweddaru, yn ôl fy neall i, unwaith eto. Roedd pobl yn cael eu ffonio a oedd wedi marw ers misoedd. Mae’r rhestr yma yn hollbwysig er mwyn medru cyfeirio’r adnoddau cywir a blaenoriaethu gwaith. Felly, gaf i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet gysylltu efo’r PSR a gweithio gyda nhw er mwyn sicrhau bod y rhestr yn cael ei diweddaru yn fwy rheolaidd?
...
Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor AS a Liz Saville Roberts AS:
...
Rhaid yn gyntaf cydnabod ymdrech peirianwyr Scottish Power i ailgysylltu cyflenwad trydan i gymunedau ledled Dwyfor Meirionnydd, a hynny dan amodau heriol iawn. Mae Cyngor Gwynedd wedi codi pryderon gyda ni am gywirdeb a chyflawnrwydd y Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth. Rydym yn deall y gall pobl ddiweddaru eu hunain ar y gofrestr, a bod Scottish Power hefyd yn gweithio gyda sefydliadau partner i’w chynnal; Rydym yn deall bod yn rhaid parchu’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Mae poblogaeth yr etholaeth hon yn cael ei nodweddu gan ddemograffeg hŷn, gan gynnwys niferoedd sylweddol o bobl sy’n symud yma ar ôl ymddeol ac felly yn aml heb aelodau o’r teulu yn byw gerllaw. Byddem felly yn annog ein bod yn dysgu o brofiad Storm Darragh ac yn sicrhau bod y gofrestr mor gynhwysfawr a chyfoes â phosibl. Mae’n peri pryder arbennig i ni nad yw pobl a ryddhawyd yn ddiweddar o’r ysbyty yn cael eu cynnwys ac nad oes gan Scottish Power ar hyn o bryd gyswllt uniongyrchol â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r perwyl hwn. Rydym wedi ceisio sicrwydd gan Scottish Power y bydd camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater dybryd hwn fel bod y wybodaeth gywir yn cael ei dosbarthu i asiantaethau cymorth rheng flaen yn y dyfodol.

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2024-12-11 14:28:51 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.