HSBC: Diogelu Banciau Lleol
Arwyddwch ein Llythyr Agored
Bancio yw un o'r gwasanaethau mwyaf sylfaenol a phwysig y mae pobl yn dibynnu arno. Mae gan fanciau gyfrifoldeb cymdeithasol i wasanaethu ein cymunedau ac maent yn arbennig o bwysig i'r henoed a busnesau lleol.
Eto i gyd, dros y blynyddoedd diwethaf mae cymunedau ar draws Dwyfor Meirionnydd wedi tystio i gwymp cyflym mewn bancio lleol, gydag ardaloedd gwledig yn arbennig yn dioddef yn anghymesur.
Mae Dwyfor Meirionnydd wedi colli 74.2% o’i rwydwaith bancio ers 2015 gyda dim ond 8 cangen banc ar ôl bellach. Mae Cymru wedi gweld 380 o ganghennau lleol yn cau ers 2025 gyda dim ond 179 yn dal ar agor.
HSBC yw’r banc olaf sydd ar ôl mewn tair o drefi mwyaf poblog Dwyfor Meirionnydd, sef Dolgellau, Bala, a Phorthmadog. Mae'r canghennau eraill yng Nghaernarfon a Phwllheli.
Ni all unrhyw beth gymryd lle cerdded i mewn i gangen banc a siarad â rhywun dros y cownter. Er gwaethaf y myth sy'n cael ei bedlera gan fanciau'r stryd fawr bod pawb yn bancio ar-lein, mae pobl yn dal i fod eisiau'r cyswllt personol hwnnw.
Gofynnwn felly i chi ymrwymo i ddiogelu gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb yn Nwyfor Meirionnydd a chynnal presenoldeb cangen dros y cownter yn ein cymunedau.
Gwir Anrh. Liz Saville Roberts AS | Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd
Mabon ap Gwynfor AS | Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd