Rhybydd o ebyst celwyddog ynghylch y frechlyn

Mae angen i bobl fod yn wyliadwrus o ebyst neu negeseuon destun celwyddog ynghylch y frechlyn, yn ol ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor.

Daw ei rybydd yn dilyn ebost gelwyddog a dderbyniodd Mr ap Gwynfor ynghylch y frechlyn a oedd wedi ei lunio fel neges swyddogol gan y GIG. 

Meddai'r ymgeisydd Plaid Cymru: "Mae yna nifer fawr o bobl fregus yn disgwyl y frechlyn. Yn anfodus mae yna rhai diegwyddor yn edrych i fanteisio ar eu pryderon a chael pobl i glicio ar linciau sydd naill ai yn gofyn am fanylion personol, megis manylion banc, neu yn rhannu feirws ddigidol. 

"Rwy'n anog pobl i fod yn wyliadwrus o gyfathrebiadau digidol sy'n honi i ddod o sefydliadau mewn awdurdod. Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn gweinyddu prosiect anferthol ar hyn o bryd i drio brechu cynifer o bobl bregus a phosibl drwy gylstyrau meddygon teulu neu ganolfannau brechi. Bydd y rhai hynny sydd wedi eu blaenoriaethu ar gyfer y frechiad yn derbyn llythyr neu ganiad gan y GIG yn eu hysbysu o'i hapwyntiad. Ni ddylai unrhyw un roi manylion banc i rywun sy'n honi eu bont yn ymwneud a'r frechlyn neu glicio ar linciau mewn ebost heblaw eu bont yn gwbl sicr ei fod yn ddiogel. urge

"Yn fy achos i, er fod yr ebost yn edrych yn ffurfiol, roedd yn amlwg mai celwydd ydoedd wrth i mi fynd a'r cyrchwr dros gyfeiriad y danfonydd a gwel mai cyfeiriad ffug ydoedd. Roeddwn i hefyd yn ymwybodol nad oeddwn i yn y grwp flaenoriaeth, a fyswn i byth yn breuddwydio cael brechlyn o flaen rhywun bregus." 


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Mabon ap Gwynfor
    published this page in Newyddion 2021-01-25 20:15:00 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.