Mae cymunedau yng Ngwynedd yn wynebu methiannau difrifol a diffyg cynllunio strategol yn narpariaeth gwasanaethau Swyddfa’r Post, yn ôl Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts.
Roedd Mrs Saville Roberts yn ymateb i newyddion am doriadau pellach i wasanaethau Swyddfa'r Post yn ei hetholaeth gyda cangen Cricieth yn cau fis Ionawr. Cyhoeddwyd yn ddiweddar fod Swyddfa Bost Caernarfon hefyd dan fygythiad.
...
Mae cau Swyddfa Bost Cricieth â goblygiadau tu hwnt i'r dref ei hun gan fod y Postfeistr presennol hefyd yn gweithredu gwasanaeth cymunedol wythnosol â fan i gyfanswm o 25 o gymunedau ar draws Gwynedd.
...
Nid oes ychwaith wasanaeth Swyddfa'r Post yn Nefyn, a gaeodd yn rhannol oherwydd nad oedd gan staff ffydd yn y systemau cyfrifiadurol yn dilyn sgandal Horizon.
...
Mae Mrs Saville Roberts, a gododd y materion hyn gyda'r cyn-Weinidog Kevin Hollinrake cyn yr etholiad cyffredinol, wedi galw ar y llywodraeth Lafur newydd i sicrhau nad yw Swyddfa'r Post yn rhoi elw o flaen anghenion cymunedau gwledig.
...
Dywedodd Liz Saville Roberts AS:
...
Mae hyn yn ergyd arall i'n cymunedau gwledig, rhyw wythnos yn unig ers i Swyddfa'r Post gyhoeddi bod eu cangen Caernarfon dan fygythiad. Mae canghennau gwledig fel Cricieth yn gwasanaethu ardal llawer ehangach na'r dref ei hun ac o ystyried fod gwasanaethau bancio wyneb yn wyneb eraill yn cau, mae'r angen i gynnal presenoldeb Swyddfa’r Post yn hanfodol bwysig. O ystyried bod gan Swyddfa'r Post ymrwymiad i sicrhau bod 95% o'r boblogaeth wledig o fewn 3 milltir i Swyddfa'r Post, a bod 95% o boblogaeth pob côd post o fewn 6 milltir i Swyddfa Post, rwyf am wybod sut mae Swyddfa'r Post yn bwriadu cynnal hyn yn sgil cau cangen Cricieth. Rwyf hefyd yn gofyn am eglurder ynghylch dyfodol darpariaeth gwasanaethau allgymorth symudol i gymunedau a wasanaethir ar hyn o bryd gan Bostfeistr Cricieth. Mae'r gwasanaeth hwn yn achubiaeth i lawer o gymunedau yn fy etholaeth i, gan alluogi pobl i gael mynediad i wasanaethau Swyddfa'r Post yn agos at adref. Ar hyn o bryd mae 25 o gymunedau ar draws Meirionnydd, Dwyfor, ac Arfon yn elwa o'r gwasanaeth symudol hwn, ond eto does dim sicrwydd y bydd hyn yn parhau unwaith y bydd cangen Cricieth yn cau. Mae pobl sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn, yn enwedig yr henoed a'r rhai heb drafnidiaeth, angen sicrwydd y bydd y gwasanaethau hyn yn dal i fod yno ar eu cyfer yn y flwyddyn newydd. Yr hyn sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yw bod y difrod i enw da a achoswyd i Swyddfa'r Post yn dilyn sgandal Horizon wedi arwain at ddirywiad cyflym mewn mynediad at wasanaethau i bobl sy'n byw mewn nifer cynyddol o gymunedau. Mae gen i bob cydymdeimlad â pherchnogion busnes sy'n cael eu hunain mewn sefyllfa lle nad yw bellach er eu budd personol nac ariannol i barhau i ddarparu gwasanaethau Swyddfa'r Post. Mae llawer wedi cael eu hysgwyd gan sgandal Horizon, gydag anymddiriedaeth yn ffactor sylweddol yn amharodrwydd llawer i gymryd drosodd y gwaith o redeg gwasanaethau. Mae hyn, yn ogystal â phenderfyniadau llywodraeth y DU dros nifer o flynyddoedd i leihau nifer y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir yng ngownteri Swyddfa'r Post. Yn gyntaf oll, mae Swyddfa'r Post yn wasanaeth cyhoeddus, ond ymddengys nad oes llawer o ymgysylltu â'r cyhoedd na chynllunio strategol lle mae angen gwarantu presenoldeb canghennau. Ni roddir fawr ddim ystyriaeth i ffactorau lleol megis mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, tlodi digidol mewn ardaloedd gwledig neu anghenion penodol ein cymunedau Cymreig. Ar adeg pan ddylai prif flaenoriaeth Swyddfa'r Post fod i adfer ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd, mae'n ymddangos eu bod yn benderfynol o wneud bywyd yn anoddach i'w cwsmeriaid ffyddlon.
...
Ychwanegodd y Cynghorydd Sian Williams (Cricieth):
...
Mae cau canghennau Swyddfa Post yng nghefn gwlad a gwasanaethau allgymorth cymunedol yn hynod siomedig. Nid yn unig y mae Swyddfa'r Post yn darparu gwasanaethau cyffredinol, ond maent hefyd yn llenwi'r bwlch a adawyd gan gynifer o'n banciau ar y stryd fawr. Rwy'n gobeithio y gellir dod o hyd i ateb sy'n cynnal gwasanaethau Swyddfa'r Post yng Nghricieth.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter