Aelodau Plaid Cymru yn dewis Mabon ap Gwynfor i frwydro Etholiad Cynulliad 2021 yn Nwyfor-Meirionnydd
Mabon yn addo 'ail-gipio' Dwyfor-Meirionnydd i'r Blaid
Mae aelodau Plaid Cymru yn Nwyfor-Meirionnydd wedi dewis Mabon ap Gwynfor fel eu hymgeisydd er mwyn ail-gipio Dwyfor-Meirionnydd yn 2021.
Daw'r newyddion yn dilyn cyfarfod ddewis ym Mhwllheli heddiw.
Yn dilyn cael ei ddewis, dywedodd Mabon ap Gwynfor:
"Rwy'n ddiolchgar i aelodau'r Blaid yn Nwyfor-Meirionnydd am roi eu hyder ynof fel eu hymgeisydd i ad-ennill yr etholaeth hon i Blaid Cymru a helpu'r Blaid i ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru.
"Mae'n gyfnod cyffrous i Blaid Cymru. Rydym yn cynnig gweledigaeth sy'n cynnig y dyfodol gorau ac mwyaf llewyrchus i bobl Cymru. Rwan mae'n rhaid dechrau ar y gwaith o estyn allan i bobl Dwyfor-Meirionnydd ac adeiladu ar reocrd gryf Plaid Cymru o sefyll i fyny dros yr etholaeth, ein gwerthoedd Ewropeaidd a Chymru."
Ychwanegodd Liz Saville-Roberts AS:
"Rwy'n llongyfarch Mabon ar gael ei ddewis ac yn talu teyrnged i bob ymgeisydd am roi eu hun ymlaen ar gyfer yr enwebiad.
"Rhaid i ni wneud pob dim i sicrhau fod Mabon yn cael ei ethol fel Aelod Cynulliad Plaid Cymru nesaf Dwyfor-Meirionnydd ac ad-ennill yr etholaeth i Blaid Cymru.
"Rwy'n edrych ymlaen i weithio ochr yn ochr a Mabon er mwyn cymryd ein neges blaengar o obaith ac uchelgais i'n cymunedau ac ymgyrchu i sicrhau fod Plaid Cymru yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru yn 2021."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter