PLAID CYMRU YN GALW AM OEDI OCSIWN CAPEL HANESYDDOL

Rhowch gyfle i’r gymuned achub capel Tom Nefyn medd Mabon ap Gwynfor

Mae galwadau yn cael ei wneud i gwmni ociswn ohirio gwerthiant hen gapel yn Pistyll, ger Nefyn, er mwyn rhoi digon o amser i grŵp cymunedol gasglu pres i wneud cais i brynu’r eiddo. 

Mae hen gapel Bethania, Pistyll, i fod i fynd i ocsiwn ddydd Mercher nesaf (24 Mawrth). Ond mae trigolion lleol ac o'r tu hwnt yn pryderu ei fod yn cael ei werthu fel cyfle i’w ddatblygu yn dŷ haf.  

Mae ymgeisydd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd ar gyfer Senedd Cymru Mabon ap Gwynfor eisiau gweld y gymuned leol yn cael cyfle i brynu’r capel, sy'n gysylltiedig a'r Cymro, Gwerinwr a Brawdgarwr Tom Nefyn. 

‘Mae achos capel Bethania, hen gapel Twm Nefyn, wedi creu tipyn o gynnwrf.’  

‘Wrth i ni weld ein cymunedau yn dioddef yn sgil y niferoedd o ail dai a thai gwyliau, dyma hen adeilad o bwys diwylliannol yn lleol yn cael ei werthu fel cyfle i ddatblygu ty gwyliau arall.’ 

‘Mae yna ymgyrch ar y gweill er mwyn i grŵp cymunedol roi cais i brynu'r eiddo. Mae'n rhaid iddyn nhw gael yr amser angenrheidiol i hyrwyddo eu hymgyrch, felly dylid gohirio'r arwerthiant.’ 

‘Rwy'n deall fod y caniatad cynllunio yn caniatáu tŷ gwyliau yn unig, a hynny oherwydd polisiau cynllunio sy'n cael eu gorfodi gan Lywodraeth Cymru.’  

‘Byddai'n dda gweld grŵp cymunedol yn cymryd perchnogaeth o'r eiddo ac yn rhoi y pres allan o unrhyw fenter yn ôl i ddatblygu tai i'r gymuned.’ 

‘Mae'r achos yn codi cwestiynnau pellach ynghylch polisiau cynllunio Llywodraeth Lafur Cymru.’ 

‘Rwyf wedi dweud dro ar ôl tro fod angen cyfyngu ar y nifer o ail dai a thai gwyliau mewn ardaloedd lle mae yna ganrhan sylweddol yn bodoli. Rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar hyn fel opsiwn.’

Gallwch gyfranu at yr ymgyrch ariannol yma: https://www.gofundme.com/f/cronfa-capel-bethania-pistyll


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Mabon ap Gwynfor
    published this page in Newyddion 2021-03-19 16:45:07 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.