CLEIFION YN AROS DROS 5 MIS AM DDIAGNOSIS O GANSER 

Mae oedi gyda diagnosis a thriniaeth canser yng ngogledd orllewin Cymru yn achosi dioddefaint a phryder ofnadwy i gleifion a’u teuluoedd yn ôl Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor. 

Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, tynnodd Mr ap Gwynfor sylw at sawl achos yn ei etholaeth, gan gynnwys etholwr a gafodd wybod y byddai’n gorfod aros ugain wythnos i weld dermatolegydd, tra bod apwyntiad preifat wedi cadarnhau diagnosis o ganser y croen.
...
Dywedwyd wrth etholwraig arall y byddai’n gorfod aros saith wythnos am famogram, er bod y claf wedi cael ei chyfeirio ar frys gan ei meddyg teulu.
...
Codwyd y cwestiwn wythnos ar ôl cyhoeddi’r data diweddaraf ar amseroedd aros canser sy’n dangos mai dim ond 55% o gleifion canser yng Nghymru gafodd eu gweld o fewn y 62 diwrnod a argymhellir.
...
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS:
...
Mae gen i achosion yn fy etholaeth i. Mae un etholwr wedi dod mewn yn dweud bod hi’n aros saith wythnos am famogram. Etholwraig arall yn aros am driniaeth canser y croen ac yn aros 24 wythnos am y driniaeth. Wrth gwrs, mae diagnosis cynnar yn hanfodol, ond mae’n hanfodol er mwyn medru cael triniaeth ar gyfer yr afiechyd. Felly, ydy’r Prif Weinidog yn meddwl ei fod o’n dderbyniol bod pobl yn fy etholaeth i yn gorfod aros cyhyd am driniaeth? Pam bod yna loteri cod-post rhwng ardaloedd yng Nghymru ar gyfer diagnosis a thriniaeth?
...
Mynychodd Mr ap Gwynfor Uwchgynhadledd Canser Ewropeaidd ym Mrwsel yr wythnos ddiwethaf i lansio ap newydd ar gyfer cleifion Canser yn Ewrop. 
...
Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS: 
...
Mae gwledydd Ewropeaidd bach fel Slofenia, Estonia a'r Ffindir yn symud ymlaen gyda gwell diagnosis, digideiddio a chaniatáu i bobl fyw'n dda gyda chanser. Gallai'r ap SmartCare newydd fod yn drawsnewidiol i gleifion mewn gwledydd ledled Ewrop. Yn anffodus, oherwydd Brexit ni fydd ar gael i ni yng Nghymru yn y tymor byr, ond rwy’n obeithiol y gellid ei gyflwyno’n raddol yn y dyfodol, a bydd y gwersi a ddysgais yn ein helpu i ddatblygu polisïau gwell ar gyfer cleifion canser yng Nghymru. Yn anffodus, mae gan Gymru ymhlith y canlyniadau canser gwaethaf yn Ewrop. Os na chymerir camau brys bydd hyn yn gwaethygu. Mae diagnosis cynnar yn allweddol i ddod â’r duedd bryderus mewn cyfraddau goroesi canser yng Nghymru i ben. Nid yw canser yn poeni am ddaearyddiaeth, ond mae cleifion. Maent yn haeddu gwasanaeth cyfartal, lle bynnag y maent yn byw. Mae’n ymddangos bod loteri cod post o ran cael mynediad at ddiagnosis a thriniaeth canser yng Nghymru gyda phobl sy’n byw yn y gogledd dan anfantais anghymesur. Dyma lywodraeth sy’n parhau i fethu â mynd i’r afael â’r tagfeydd yn ein GIG, gyda chleifion canser yn dioddef o ganlyniad.

Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Alun Roberts
    published this page in Newyddion 2024-12-03 16:27:36 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.