Parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid canllawiau busnes er mwyn osgoi talu perchnogion ail gartrefi

Mae Plaid Cymru Gwynedd yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid canllawiau grantiau busnes Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau nad yw perchnogion ail gartrefi sy’n fwriadol wedi trosglwyddo i dreth fusnes er mwyn osgoi talu trethi, ddim yn cael mynediad at grantiau cefnogi busnesau £10,000 neu hyd at £25,000.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth ariannol i fusnesau bach Cymru yn dilyn datblygiad Covid-19 a’r effaith mae’r afiechyd yn ei gael ar yr economi. Fel rhan o’r pecyn cymorth, mae grant sydd ynghlwm â’r dreth annomestig ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy'n berchen eiddo.

Ond wrth i arweinwyr cynghorau sir ledled Cymru drafod y grantiau, cysylltodd y Blaid yng Ngwynedd â’r Gweinidog, Julie James, i ddatgan anfoesoldeb rhyddhau arian o’r pwrs cyhoeddus i lenwi pocedi rhai sydd â digon o gyfoeth yn barod.

Yng Ngwynedd yn unig amcangyfrifwyd y gallai rhwng £15 a £18m gael ei ryddhau i berchnogion ail gartrefi trwy’r bwlch oedd yn y pecyn cefnogaeth ariannol i fusnesau bychain gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd arweinydd y Blaid yng Ngwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Mae’n gwbl anfoesol bod unigolion cyfoethog sydd berchen ail gartrefi yn cael mynediad i’r pecyn cymorth ariannol yma o du’r Llywodraeth. Mae’n mynd yn gwbl groes i ethos y cynllun, sef pecyn i sicrhau economi hyfyw mewn cyfnod aneconomaidd oherwydd yr aflwydd haint yma sy’n lledaenu trwy’r wlad.

“Mae’r grant i’w ddefnyddio gan fusnesau gwledig bychain yng Ngwynedd sydd wedi ei heffeithio’n uniongyrchol o ganlyniad i ddeddfau’r Llywodraeth sy’n atal cwmnïau a busnesau rhag masnachu. Dyna pam ein bod wedi holi Uned Gyfreithiol Cyngor Gwynedd i edrych ar gymalau penodol o fewn y canllawiau busnes, er mwyn gwahaniaethu rhwng busnes gwledig a pherchnogion ail gartrefi.

Mae arweinwyr cynghorau sir eraill ledled Cymru wedi cefnogi gwaith Gwynedd, gan gynnwys yn benodol, cynghorau sir Ynys Môn, Conwy, Ceredigion, Caerfyrddin a Phenfro, lle mae nifer uchel o ail gartrefi yn bodoli. Mae trafodaethau niferus wedi digwydd trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i drafod y mater

“Rydym yn croesawu ymateb y Gweinidog, Julie James i’r drafodaeth hon. Mae wedi bod yn gadarnhaol ac yn adeiladol. Ond yn anffodus, mae’r gweision sifil yn llusgo traed gyda’r manylion.” yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn.

Yn ychwanegol i’r canllaw busnes y geiriad y mae Gwynedd wedi ei chynnig i Lywodraeth Cymru yw: “Mewn perthynas â llety hunanarlwyo, ni fydd busnes yn gymwys i gael y grant pe bai'r eiddo ar unrhyw adeg ers 1 Ebrill 2010 yn annedd domestig. Fodd bynnag, bydd llety hunanarlwyo yn gymwys i gael y grant os oes gan yr eiddo ganiatâd cynllunio penodol ar gyfer defnydd o'r fath. Rhaid cyflwyno tystiolaeth o’r caniatâd cynllunio i gefnogi'r cais am y grant os bydd yr awdurdod gweinyddol yn holi amdano.”

Yn ôl y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Trwy ychwanegu’r cymal yma i’r canllaw busnes byddai’n amddifadu’r rhai hynny sydd wedi gosod eu hail gartref am gyfnod er mwyn osgoi talu’r Dreth Gyngor rhag derbyn y grant ond ar yr un pryd yn sicrhau  bod y busnesau hynny sydd wedi troi tŷ yn fusnes go iawn yn ei dderbyn.

“Edrychwn ymlaen at dderbyn ymateb ffurfiol Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James, yn ystod y dydd heddiw. Ein gobaith yw y daw canllaw clir ac eglur i’r gefnogaeth fusnes sy’n dal dŵr, os daw her gyfreithiol i unrhyw gyngor sir, o du’r cyfoethogion sy’n berchen ail gartref.”


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.