Mae teithwyr ar Brif Linell Rheilffordd Gogledd Cymru yn dioddef trafferthion enbyd ac oedi parhaus wrth i ffigurau gan Avanti ddangos mai rheilffordd Gogledd Cymru i Lundain sydd â'r gyfradd canslo uchaf ar draws y rhwydwaith gyfan.
Mae ffigurau gan gwmni Avanti rhwng Gorffennaf ac Awst 2024 yn dangos bod rheilffordd Gogledd Cymru i Lundain ar frig y tabl o ran canslo gwasanaethau ar 15.4%, y gyfradd uchaf ar draws rhwydwaith cyfan Avanti UK.
Wrth godi'r mater yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw, galwodd AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddefnyddio ei rôl i fynd i'r afael â phroblemau cyson sy’n cosbi teithwyr gogledd Cymru.
Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts AS:
Roedd cyfradd canslo trenau ar Reilffordd Gogledd Cymru i Lundain ar y diwrnod yn 15.4% ym mis Awst. Mae gennym ni'r cyfraddau canslo uchaf ar-y-dydd ar gyfer rhwydwaith Avanti cyfan - dair i bedair gwaith yn uwch na rhan waethaf nesaf y rhwydwaith. Sut bydd hi'n defnyddio ei rôl i atal Avanti West Coast rhag cosbi teithwyr o Gymru?
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens AS:
Mae'r llywodraeth yn glir nad yw perfformiad Avanti ar Reilffordd Gogledd Cymru wedi bod yn ddigon da. Rydym wedi clywed sawl gwaith yn y Siambr hon am y gwasanaeth ofnadwy. Gormod o ganslo a gormod o oedi. Mae'r llywodraeth hon wedi mynnu bod Avanti West Coast yn gwella perfformiad ar wasanaethau. Trafodais hyn gyda'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth yr wythnos diwethaf. Mae Gweinidogion a swyddogion yn cynnal trafodaethau ac adolygiadau perfformiad rheolaidd gydag Avanti West Coast a Network Rail i'w dwyn i gyfrif, gan fonitro cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau cytundebol yn agos a sbarduno gwelliannau gan ddefnyddio'r mecanweithiau cytundebol.
Ychwanegodd Liz Saville Roberts AS:
Mae teithwyr yng ngogledd Cymru yn parhau i fod dan anghyfleustra o ganlyniad i ganslo gwasanaethau rheilffordd rhwng gogledd Cymru a Llundain, gydag oedi parhaus i deithiau yn dwysáu'r sefyllfa. Mae Prif Linell Gogledd Cymru yn llwybr economaidd bwysig, sy'n gwasanaethu i gysylltu porthladd Caergybi â gweddill rhwydwaith rheilffyrdd y DU. Mae'n warth bod y llwybr hwn yn cael ei redeg i'r ddaear gan weithredwr anadfail. Mae pobl yn haeddu sicrwydd a hyder y bydd eu trên yn rhedeg ar amser neu o leiaf yn cyrraedd. Heb amserlen ddibynadwy a'r gallu i archebu tocynnau yn hyderus - mae'n anodd iawn i bobl gynllunio. Er fy mod yn cydnabod y buddsoddiad diweddar a hirddisgwyliedig mewn fflyd o drenau newydd a gwell ar y llwybr rhwng Caergybi a Llundain, mae teithwyr ledled gogledd Cymru yn parhau i ddioddef amseroedd teithio a chyfathrebu gwael. Mae'r tarfu parhaus hyn yn ddrwg i fusnes ac yn ddrwg i economi ymwelwyr gogledd Cymru.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter