Y Senedd yn dathlu 50 mlynedd ers sefydlu Mudiad Meithrin
Mae mudiad sy’n arbenigo ym maes gofal ac addysg blynyddoedd cynnar Cymraeg yn dathlu hanner canmlwyddiant ers ei sefydlu.
GALWAD AM STRATEGAETH STROC CENEDLAETHOL I GYMRU
Mae galwadau wedi ei gwneud am Strategaeth Strôc Genedlaethol newydd i Gymru, sy'n blaenoriaethu anghenion cleifion, a sicrhau gofal yn agosach i'w cartref gan ei gwneud hi'n haws i oroeswyr strôc dderbyn addasiadau i'r cartref.
Mae ymgeisydd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd ar gyfer etholiad Senedd Cymru, Mabon ap Gwynfor, wedi rhybuddio y gallai cymunedau gwledig ddioddef yn anghymesurol pe bai Llywodraeth Cymru yn gohirio ymhellach cyhoeddi strategaeth strôc newydd ar gyfer Cymru.
LLEISIO PROBLEMAU CYSYLLTEDD ARDALOEDD GWLEDIG GYDAG OFCOM
AS ac ymgeisydd Plaid Cymru yn cyfarfod â’r rheolydd telegyfathrebu cyn cyfarfod Openreach.
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts ac ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyfor Merionnydd, Mabon ap Gwynfor, wedi cyfarfod â rheolydd cyfathrebu y DU, Ofcom, i bwyso am yr angen am well cysylltedd band eang yn ei hetholaeth wledig.
Dangosodd adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Ofcom, fod dros 18% o aelwydydd Dwyfor Meirionnydd yn derbyn cyflymderau band eang o lai na 10Mb/s, y trothwy cymhwysedd a osodwyd gan lywodraeth y DU ar gyfer uwchraddio rhwydwaith.
Mae ffigurau hefyd yn dangos bod cyflymderau llawrlwytho ar gyfartaledd yn yr etholaeth (41.2%) yn sylweddol is na chyfartaledd Cymru (58.3%) a'r DU (72.9%).
Bydd Mrs Saville Roberts, sydd wedi ymgyrchu'n llwyddiannus i wella argaeledd band eang ar draws cymunedau yn ei hetholaeth, a Mabon ap Gwynfor yn cyfarfod â BT ac Openreach yr wythnos yma, lle bydd yn codi problemau etholwyr sy'n cael trafferth gyda gwasanaeth annerbyniol ac addewidion gwag gan ddarparwyr rhwydwaith.