Parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid canllawiau busnes er mwyn osgoi talu perchnogion ail gartrefi
Mae Plaid Cymru Gwynedd yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid canllawiau grantiau busnes Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau nad yw perchnogion ail gartrefi sy’n fwriadol wedi trosglwyddo i dreth fusnes er mwyn osgoi talu trethi, ddim yn cael mynediad at grantiau cefnogi busnesau £10,000 neu hyd at £25,000.
WELSH GOVERNMENT URGED TO ISSUE NO TRAVEL DIRECTIVE TO SECOND HOMES AND CARAVAN PARKS
Plaid Cymru Member of Parliament for Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts has called on the Welsh government to issue an immediate directive to advise people against travelling to their second homes and caravan parks in her constituency, as concerns mount about the pressure an influx in population will have on local NHS services fighting the Coronavirus outbreak.
Gwaith yn dechrau i atgyweirio’r ffordd sy’n arwain at Ynys Enlli
Mae’r gwaith o atgyweirio’r ffordd wledig sy’n arwain at Borth Meudwy yn Uwchmynydd, Aberdaron wedi dechrau, yn dilyn tirlithriadau yn ystod yr hydref ar y ffordd bwysig sy’n arwain pysgotwyr, gweithwyr ac ymwelwyr i Ynys Enlli.
Mae buddsoddiad o £170,000 wedi ei glustnodi o Adran Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru, diolch i waith y Cynghorydd Sir dros yr ardal, Gareth Roberts.
Gwynedd i fuddsoddi mewn neuadd gelfyddydol, gymunedol ac addysgol ym Mhwllheli
Bydd buddsoddiad o dros £500,000 yn digwydd i adeilad celfyddydol eiconig ym Mhwllheli, er lles trigolion Llŷn a’r ardal yn ôl aelod cabinet Plaid Cymru dros gymunedau a datblygu economi ar Gyngor Gwynedd, Gareth Thomas yr wythnos hon (10 Mawrth).
Cefnogodd cabinet Cyngor Gwynedd argymhelliad y Cynghorydd i fuddsoddi £570,000 yn Neuadd Dwyfor gan gynnig darpariaeth amlbwrpas flaengar o fewn y gofod i drigolion lleol ar ffurf theatr, sinema a llyfrgell.
Galw am newid blwch pleidleisio i nodi Cymreictod
Bydd Cynghorydd o Lŷn yng nghyfarfod cyngor llawn Gwynedd heddiw (dydd Iau 5 Mawrth), yn pwyso am newid i ffurflen 'Ymholiad Aelwyd Blynyddol' i bob cartref wrth bleidleisio fel bod modd nodi dewis o ran cenedligrwydd ar y ffurflen.
Ar hyn o bryd, dim ond blwch ‘Prydeinig’ sydd ar y ffurflen gan Llywodraeth San Steffan, felly does dim modd nodi eich cenedligrwydd fel Cymraes, Albanwr, Gwyddeles a.y.y.b. Mae bygythiad am ddirwy o £1,000 os nad yw’r ffurflen wedi ei chofnodi’n gywir.
Llawenhau bod buddsoddiad i wella diogelwch plant tu allan i Ysgol Tanygrisiau
Mae Cynghorydd Gwynedd dros Danygrisiau, Annwen Daniels yn llawenhau o glywed bod ymgyrch i wella diogelwch i ddisgyblion wrth brif fynedfa’r ysgol wedi dwyn ffrwyth.
Ers dwy flynedd, mae’r Cynghorydd Sir dros bowydd, Rhiw a Thanygrisiau wedi bod yn pwyso am gefnogaeth ariannol i helpu’r ysgol wella’r mynediad i’r safle, fel bod llai o risg i ddisgyblion cynradd gamu allan yn syth i’r ffordd wrth adael yr ysgol ar ddiwedd y dydd.
Cyhuddo Bwrdd Iechyd o dwelu staff
Cyhuddo Bwrdd Iechyd o dawelu ei staff
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael eu cyhuddo o drio dawelu ei staff.
Rhannodd aelod o staff e-bost oddi wrth y Bwrdd Iechyd gyda Mabon ap Gwynfor oedd yn galw ar i’r staff beidio a llofnodi y ddeiseb oedd yn cefnogi gwasanaeth methiant y galon.
FFIGYRAU'N DANGOS FOD GAN BOBL YN Y GOGLEDD RISG UWCH O DDATBLYGU CANSER NA GWEDDILL CYMRU
Cefnogaeth ‘lethol’ i ganolfan ranbarthol unswydd i ostwng cyfraddau marwolaethau
Mae gwleidyddion Plaid Cymru Mabon ap Gwynfor a Sian Gwenllian a’r ymgyrchwraig Becky Williams wedi ail-adrodd galwadau am ganolfan diagnosis am ganser yng ngogledd Cymru, wedi i ffigyrau newydd ddangos fod pobl yn y gogledd yn wynebu llawer mwy o siawns o ddatblygu canser na gweddill Cymru.
ADFER GWASANAETH SWYDDFA BOST MEWN DWY GYMUNED
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi croesawu’r newyddion bod dwy gymuned yn Nwyfor Meirionnydd wedi cael eu gwasanaethau Swyddfa’r Post wedi’u hadfer, yn dilyn ymgyrch ar y cyd i wella mynediad at arian parod a gwasanaethau bancio.
Croesawu datganiad y bydd yr Eisteddfod yn ymweld a Boduan yn 2021
Mae’r newyddion fod yr Eisteddfod Genedlaethol am ddod i Boduan, Llŷn, yn 2021 wedi cael ei groesawi’n arw gan arweinwyr cymunedol yn yr ardal.