Carreg filltir bwysig i Ffordd Osgoi Llanbedr
Heddiw, croesawodd Cynghorydd Plaid Cymru Gwynedd, Annwen Hughes y newyddion bod aelodau cabinet Cyngor Gwynedd wedi awdurdodi i orchmynion prynu gorfodol gael eu gwneud mewn perthynas â ffordd osgoi A496 Llanbedr yn Ardudwy.
YMGYRCH I WARCHOD DYFODOL BRAGDAI BACH YN CYRRAEDD SAN STEFFAN.
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts wedi cyhuddo Canghellor y DU o ddiystyru bragdai bach annibynnol yng Nghymru, wrth i lywodraeth San Steffan newid y ffordd y mae bragdai yn cael eu trethu.
O dan y cynlluniau dadleuol, mae dwsinau o fragdai bach ledled Cymru yn wynebu’r baich o dalu mwy o dreth oherwydd penderfyniad y Trysorlys i dorri Rhyddhad Trethi Bragdai Bach (Small Breweries Relief). Gallai'r newidiadau effeithio'n andwyol ar oddeutu 90 o fragdai bach yng Nghymru.
AS LLEOL YN GALW AM GANOLFANNAU PROFI COVID-19 YN NWYFOR A MEIRIONNYDD
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sefydlu canolfannau profi cymunedol lleol pwrpasol ar gyfer pobl sy'n byw yn ardal Dwyfor a Meirionnydd sydd â symptomau Covid-19.
Er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i agor canolfan brofi ym Mangor, nid oes darpariaeth barhaol ar gyfer y rhai sy'n byw yn Nwyfor a Meirionnydd, gyda'r canolfannau profi gweithredol amgen agosaf yn Aberystwyth a Llandudno.
Amser deddfu ar ddefnydd jet sgis yn union fel deddfu beiciau modur
Heddiw, bydd Plaid Cymru Gwynedd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol ar y môr, fel jet sgis, yn yr un modd ag y mae beiciau modur yn cael eu rheoli dan ddeddf gwlad ar y ffordd.
“Ydi’r boblogaeth yng Nghymru yn sylweddoli mai Cymru a gwledydd o fewn y Deyrnas Gyfunol ydi’r unig rai yn Ewrop sy’n gadael i ddefnyddwyr jet sgis yrru ar hyd ein dyfroedd heb ddim math o gyfyngiadau?” holodd y Cynghorydd Gareth Thomas sydd â chyfrifoldeb dros gymunedau a datblygu’r economi yng Ngwynedd.
ANNOG BWRDD IECHYD I DDEFNYDDIO YSBYTAI ENFYS I DRIN CLEIFION
Mae ymgeisydd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd yn etholiadau Senedd Cymru a Chadeirydd Cynghrair Iechyd Gogledd Cymru, y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddefnyddio ysbytai enfys gogledd Cymru i helpu i ddelio â chleifion ar draws y gogledd sy’n aros am driniaeth.
Deiseb yn cynyddu pwysau i daw gwelyau nyrsio ym Mhen Llŷn
Mae dros 1,000 o bobl bellach wedi llofnodi deiseb ar-lein yn galw ar i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru i ddiogelu gwelyau nyrsio yn y Pentref Pwylaidd ym Mhenrhos, ger Pwllheli.
PWYSAU AR FWRDD IECHYD I GYNNAL GWELYAU NYRSIO LLEOL
Mae AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i roi sicrwydd cadarn y bydd gwaith sy'n cael ei wneud i edrych ar ddyfodol gwelyau nyrsio yng Nghartref Pwylaidd Penrhos a gofal nyrsio ehangach ym Mhen Llŷn yn diogelu buddiannau preswylwyr ac yn gwarantu gofal nyrsio digonol yn y dyfodol yn yr ardal gyfagos.
GALWADAU AR FWRDD IECHYD I DDIOGELU DARPARIAETH GWELYAU NYRSIO YM MHEN LLŶN
Dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr droi pob carreg i sicrhau bod darpariaeth gwelyau nyrsio yn cael ei gynnal ym Mhen Llyn yn dilyn cyhoeddiad fod Cartref Nyrsio y Pwyliaid ger Pwllheli yn cau, yn ôl gwleidyddion lleol.
Croesawu rhyddhau adroddiad i fewn i uned iechyd meddwl Ysbyty Gwynedd
Mae’r newyddion fod y Comisiynydd Gwybodaeth am orfodi y Bwrdd Iechyd i ryddhau adroddiad llawn i fewn i Uned Iechyd Meddwl Hergest, wedi cael ei groesawu gan ymgyrchydd iechyd.
PRYDER AM GYNNYDD LLEOL MEWN HAWLIO BUDD-DAL
Y sector dwristiaeth lleol wedi ei daro'n anghymesurol gan argyfwng Covid-19
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi rhybuddio am yr effaith economaidd anghymesurol sy’n wynebu ardaloedd sy’n ddibynnol ar y diwydiant twristiaeth a lletygarwch, wrth i ddata sydd newydd ei gyhoeddi ddatgelu cynnydd sylweddol yn y nifer sy’n hawlio budd-dal ers cychwyn argyfwng Covid-19
Mae ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos mai Dwyfor Meirionnydd sydd â’r cynnydd mwyaf o holl etholaethau Cymru, ymhlith pobl sy'n hawlio budd-daliadau lles ers dechrau'r argyfwng.