Newyddion Diweddaraf

newyddion gan mabon ap gwynfor as a liz saville roberts as

GWEINIDOG PYSGODFEYDD WEDI EI CHYHUDDO O DORRI CÔD YMDDYGIAD MEWN DADL DROS HAWLIAU PYSGOTWYR LLEOL

Gweinidog Llafur yn blaenoriaethu buddiannau perchennog tai haf ar draul bywoliaeth pysgotwyr Llŷn

Mae Gweinidog Pysgodfeydd Llywodraeth Lafur Cymru Lesley Griffith wedi ei chyhuddo o dorri’r Côd Ymddygiad Gweinidogol wrth gadw ochr perchennog tai gwyliau o’i hetholaeth yn Wrecsam mewn dadl dros hawl pysgotwyr lleol I gael mynediad i’r mor ym Mhen Llŷn.  

Roedd Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - sydd â chyfrifoldeb am bysgota yng Nghymru - wedi ysgrifennu at Gyngor Gwynedd i brotestio am arwyddion roedd pysgotwyr lleol wedi’u codi er mwyn rheoli parcio ger lawnsfa Porth Colmon, Llŷn.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

BYGYTHIAD I BEIRIANNU ARIAN DI-DÂL WRTH I’R LLYWODRAETH ANWYBYDDU GALWADAU AM GYMORTH

AS Plaid Cymru yn galw am fesurau lliniaru digonol i warchod cymunedau gwledig rhag toriadau anghymesurol

Mae AS Plaid Cymru dros Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi annog un o brif ddarparwyr peiriannau arian y DU i amddiffyn cymunedau gwledig, wrth iddynt symud ymlaen â chynllun i newid miloedd o beiriannau arian di-dâl gan gynnwys 3 yn ei hetholaeth.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

YMATEB I ANGHYDFOD IAITH FACTORY SHOP PWLLHELI

Mae AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi ymateb i benderfyniad gan y Factory Shop i wrthod caniatáu i aelodau staff yn eu siop ym Mhwllheli wisgo bathodynnau sy’n dangos eu bod yn siarad Cymraeg.

Darllenwch fwy
Ychwanegwch eich ymateb Rhannu

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor yn gweithio yn galed dros bawb yn Nwyfor Meirionnydd. Os hoffech gymryd rhan a helpu â’u gwaith ymgyrchu, cysylltwch.

Ymgyrchoedd