CYMUNEDAU GWYNEDD YN DIODDEF YN AGHYMESUROL OHERWYDD DIFFYG BAND EANG
ARGYFWNG COVID YN AMLYGU YR ANGEN I GAU'R BWLCH DIGIDOL MEDD AS PLAID CYMRU
Dywed AS Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, y dylai ffigyrau sy’n dangos fod cymunedau yng Ngwynedd ymhlith y rhai a wasanaethir waethaf yn y DU am fynediad at fand eang cyflym iawn, fod yn destun pryder i lywodraeth y DU a Chymru sydd wedi methu â gwneud digon i unioni’r rhaniad digidol sy'n effeithio'n anghymesurol ar ardaloedd gwledig.
Roedd AS Plaid Cymru yn ymateb i adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan OFCOM, sy’n dangos bod dros 18% o aelwydydd Dwyfor Meirionnydd yn derbyn cyflymder band eang sy’n llai na 10Mb/s, y trothwy cymhwysedd a osodwyd gan lywodraeth y DU ar gyfer uwchraddio rhwydwaith.
Rhybydd o ebyst celwyddog ynghylch y frechlyn
Mae angen i bobl fod yn wyliadwrus o ebyst neu negeseuon destun celwyddog ynghylch y frechlyn, yn ol ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor.
Y Llywodraeth yn methu a chefnogi gwelyau nyrsio cymunedol
Mae arweinwyr cymunedol wedi mynedgu eu siom y bydd gwelyau nyrsio yn y Pentref Pwylaidd, Penrhos, ger Llanbedrog yn cau yn gynt na'r disgwyl, gan gyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o fethu a rhoi'r gyllideb angenrheidiol i'w chynnal am gyfnod byr.