AS LLEOL YN CROESAWU PRYNWR I FFATRI GAWS YM MINFFORDD
Mae Futura o Swydd Gaerloyw - un o'r cyflenwyr caws cyfandirol mwyaf i'r DU ac Iwerddon - wedi prynu ffatri GRH Foods ym Minffordd.
BARCLAYS YN ATAL CWSMERIAID RHAG CAEL MYNEDIAD I ARIAN TRWY’R SWYDDFA BOST
AS Plaid Cymru yn glaw ar Barclays i ‘wyrdroi penderfyniad annoeth.’
Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi galw ar Barclays i ailystyried eu penderfyniad i atal cwsmeriaid rhag tynnu arian allan yng nghanghennau Swyddfa'r Post yn ei hetholaeth o'r 8fed Ionawr 2020.
Er na fydd rhai gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid Barclays yn cael eu heffeithio - megis blaendaliadau arian parod, sieciau ac ymholiadau balans - beirniadwyd yn ffyrnig y penderfyniad i dynnu gwasanaethau tynnu arian allan o ganghennau Swyddfa'r Post.
GWEINIDOG PYSGODFEYDD WEDI EI CHYHUDDO O DORRI CÔD YMDDYGIAD MEWN DADL DROS HAWLIAU PYSGOTWYR LLEOL
Gweinidog Llafur yn blaenoriaethu buddiannau perchennog tai haf ar draul bywoliaeth pysgotwyr Llŷn
Mae Gweinidog Pysgodfeydd Llywodraeth Lafur Cymru Lesley Griffith wedi ei chyhuddo o dorri’r Côd Ymddygiad Gweinidogol wrth gadw ochr perchennog tai gwyliau o’i hetholaeth yn Wrecsam mewn dadl dros hawl pysgotwyr lleol I gael mynediad i’r mor ym Mhen Llŷn.
Roedd Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - sydd â chyfrifoldeb am bysgota yng Nghymru - wedi ysgrifennu at Gyngor Gwynedd i brotestio am arwyddion roedd pysgotwyr lleol wedi’u codi er mwyn rheoli parcio ger lawnsfa Porth Colmon, Llŷn.