AS LLEOL YN GALW AM GANOLFANNAU PROFI COVID-19 YN NWYFOR A MEIRIONNYDD
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sefydlu canolfannau profi cymunedol lleol pwrpasol ar gyfer pobl sy'n byw yn ardal Dwyfor a Meirionnydd sydd â symptomau Covid-19.
Er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i agor canolfan brofi ym Mangor, nid oes darpariaeth barhaol ar gyfer y rhai sy'n byw yn Nwyfor a Meirionnydd, gyda'r canolfannau profi gweithredol amgen agosaf yn Aberystwyth a Llandudno.
Amser deddfu ar ddefnydd jet sgis yn union fel deddfu beiciau modur
Heddiw, bydd Plaid Cymru Gwynedd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol i greu deddfwriaeth i reoli cerbydau dŵr personol ar y môr, fel jet sgis, yn yr un modd ag y mae beiciau modur yn cael eu rheoli dan ddeddf gwlad ar y ffordd.
“Ydi’r boblogaeth yng Nghymru yn sylweddoli mai Cymru a gwledydd o fewn y Deyrnas Gyfunol ydi’r unig rai yn Ewrop sy’n gadael i ddefnyddwyr jet sgis yrru ar hyd ein dyfroedd heb ddim math o gyfyngiadau?” holodd y Cynghorydd Gareth Thomas sydd â chyfrifoldeb dros gymunedau a datblygu’r economi yng Ngwynedd.
ANNOG BWRDD IECHYD I DDEFNYDDIO YSBYTAI ENFYS I DRIN CLEIFION
Mae ymgeisydd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd yn etholiadau Senedd Cymru a Chadeirydd Cynghrair Iechyd Gogledd Cymru, y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddefnyddio ysbytai enfys gogledd Cymru i helpu i ddelio â chleifion ar draws y gogledd sy’n aros am driniaeth.