LIZ YN PLEIDLEISIO YN ERBYN TORRI TALIAD TANWYDD
Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts wedi annog ASau Llafur Cymru i gefnogi Plaid Cymru a phleidleisio yn erbyn torri’r Taliad Tanwydd Gaeaf i bensiynwyr y gaeaf hwn.
CYMUNED YN TEIMLO’N YNYSIG WRTH I WASANAETH POBLOGAIDD Y T2 GEFNU Â GARNDOLBENMAEN
Mae penaethiaid trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn cael eu hannog i wyrdroi penderfyniad i gael gwared ar wasanaeth bws y T2 trwy bentref Garndolbenmaen, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus i wrthwynebu penderfyniad i diddymu’r gwasanaeth allweddol.
Hyd at yn ddiweddar, roedd Garndolbenmaen yn cael ei wasanaethu gan 18 gwasanaeth bws T2 bob dydd a 5 gwasanaeth ar y Sul. Ond yn dilyn newid i’r amserlen, mae'r gwasanaethau hynny bellach wedi'u dileu, gan achosi pryder yn y gymuned leol.
Rhoi trefn ar gytundeb y DVLA yn bygwth dyfodol y gwasanaeth
Mae Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor a’r Aelod Seneddol, Liz Saville Roberts yn rhybuddio bydd cael mynediad i wasanaethau mewn swyddfeydd post lleol yn dod yn fwyfwy anodd os na fydd llywodraeth San Steffan yn cymryd camau ar unwaith i gryfhau’r rhwydwaith.
Cyfarfu Mr ap Gwynfor â chynrychiolwyr o Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-bostfeistri (NFSP) yn y Senedd yn ddiweddar, lle y rhannwyd pryderon ynghylch hyfywedd y rhwydwaith yn y dyfodol a’r angen i ddiogelu gwasanaethau allweddol megis bancio ac adnewyddu trwyddedau gyrru dros y cownter.